Ewch i’r prif gynnwys

Mr David Selway

Mae David yn Gyfarwyddwr Anweithredol profiadol ag arbenigedd ym meysydd gwaith digidol a TG, strategaeth busnes a thrawsnewid busnes ar ôl sicrhau statws siartredig mewn dau faes ar wahân (TG/Digidol a Marchnata).

Mr David Selway - Member of Council
Mr David Selway - Member of Council

Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys y sector awyrofod ac amddiffyn, y sector morol, y sector cynhyrchu pŵer a’r sector seilwaith. Cyn dod yn Gyfarwyddwr Anweithredol, bu’n arwain uned fusnes digidol Rolls-Royce.

Ar ddechrau ei yrfa, bu'n gweithio gyda Ferranti a GEC-Marconi yn dylunio ac yn cyflwyno datrysiadau TG cymhleth. Ymunodd â Rolls-Royce yn 2002, ac yn fuan ar ôl hynny, arweiniodd raglen trawsnewid digidol fawr a hwylusodd dwf sylweddol ym musnes awyrofod sifil Rolls-Royce.

Cyflawnodd David nifer o uwch swyddi gweithredol yn Rolls-Royce, a bu’n rhan o dîm arweinyddiaeth R2 Data Labs a arweiniodd y gwaith o wthio strategaeth ddigidol Rolls-Royce yn ei blaen.

David yw Cyfarwyddwr Anweithredol Amey yn y sector preifat, GIG Cymru yn y sector cyhoeddus a Thai Cymunedol Bron Afon yn y trydydd sector. Mae ei waith presennol yn cwmpasu archwilio a sicrwydd, llywodraethu digidol, llywodraethu gwybodaeth, gwasanaeth a pherfformiad. Mae hefyd yn cadeirio Rhwydwaith Digidol Aelodau Annibynnol Cymru Gyfan y GIG.