Jan Juillerat MBA
Ymunodd Jan Juillerat â Chyngor Prifysgol Caerdydd yn 2016, ac fe'i phenodwyd yn Ddirprwy Gadeirydd y Cyngor ar 1 Awst 2019. Mae'n Gadeirydd y Pwyllgor Taliadau ac yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, a'r Pwyllgor Llywodraethu.
Mae gan Jan Juillerat brofiad eang o weithio ym maes addysg ac ymchwil yn y DU, yn fwyaf diweddar yn Gyfarwyddwr Gweithredol UKRI. Mae hi hefyd yn NED profiadol. Mae Jan yn Gymrawd Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad (CIPD), ac yn ymarferydd Datblygu Sefydliadol a Hyfforddwr Gweithredol cymwysedig. Mae'n gweithio yn ymarferydd annibynnol yn y sectorau addysg, ymchwil a dielw, yn ymgynghorydd, hyfforddwr, adolygydd ac ymgynghorydd, gan helpu ag ymarfer effeithiol, diwylliant ac ymddygiadau cadarnhaol, gallu sefydliadol a chyflawniad sefydliadol. Mae hi'n Gydymaith ag Advance HE ac yn ymddiriedolwr i Ganolfan Cynghori ar Ymchwil Gyrfaoedd (CRAC) Ltd.
Mae Jan yn eiriolwr cryf dros gynwysoldeb, creadigrwydd, deialog a chydweithio.