Cymrodyr er Anrhydedd
Rydym ni'n dyfarnu Cymrodoriaethau Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi cyflawni arbenigrwydd rhyngwladol yn eu maes.
Cymrodyr er Anrhydedd 2018
Heather Knight OBE
Heather Knight OBE yw capten tîm criced menywod Lloegr. Arweiniodd y tîm i lwyddiant yng Nghwpan y Byd yn haf 2017, gan godi’r tlws yng nghartref tîm criced Lloegr yn Lords, a dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaeth i fyd criced yn dilyn hynny.
Sabrina Cohen-Hatton
Mae Sabrina Cohen-Hatton yn Gomisiynydd Cynorthwyol sydd wedi ei secondio i Arolygiaeth ei Mawrhydi o Wasanaeth Heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Brigâd Dân Llundain. Mae hi hefyd yn seicolegydd arbrofol ac mae’n arwain ymchwil – sydd wedi ennill gwobr – am benderfyniadau hanfodol bwysig o ran risg sy’n gwella diogelwch ac yn chwyldroi'r polisi gorchymyn cenedlaethol ar gyfer yr holl wasanaethau brys.
Lyndon Wood
Lyndon Wood yw un o entrepreneuriaid a mentoriaid busnes mwyaf llwyddiannus y DU. Mae ganddi rôl mewn nifer o sectorau gan gynnwys cyllid ac yswiriant, iechyd a ffitrwydd, y cyfryngau, eiddo a manwerthu. Ei angerdd mwyaf yw rhannu ei wybodaeth a’i brofiad i helpu busnesau ac unigolion i lwyddo.
Eleri Butler MBE
Eleri Butler MBE yw Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru - sefydliad ymbarél cenedlaethol sy’n ceisio dod â thrais yn erbyn menywod i ben. Â hithau'n ymgyrchydd brwd dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, dyfarnwyd MBE iddi yn 2007 am ei gwasanaeth i fenywod a phlant sy’n profi trais yn y cartref.
Phil Smith
Phil Smith yw Uwch-Gyfarwyddwr Annibynnol IQE PLC, cwmni uwch-ddeunyddiau blaenllaw yng Nghaerdydd. Mae arloesedd, sgiliau, technoleg, digido ac arwain yn feysydd sy’n agos iawn at ei galon, ac mae hefyd yn Gadeirydd Innovate UK a Tech Partnership.
Cynthia Ogbonna
Cynthia Ogbonna yw’r fenyw gyntaf yn hanes 110 o flynyddoedd Bws Caerdydd i gael ei phenodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae wedi gweithio i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a chynaliadwy ac hefyd wedi ymrwymo i’r cwmni fod yn gyflogwr cyflog byw.
Lazarus Hangula
Lazarus Hangula yw Is-Ganghellor Prifysgol Namibia ac un o sylfaenwyr Cymdeithas Prifysgolion Rhanbarthol Affrica Ddeheuol (SARUA). O dan ei arweiniad, mae Prifysgol Namibia bellach ymhlith 30 o brifysgolion gorau Affrica a derbyniodd Wobr Ddiemwnt Ryngwladol am Ragoriaeth mewn Ansawdd gan Gymdeithas Ewropeaidd Ansawdd Ymchwil.
Valerie Le Vaillant OBE
Mae Valerie Le Vaillant OBE yn weithiwr proffesiynol aml-ddisgyblaethol mewn eiddo ac yn bensaer, cynllunydd tref, syrfëwr ac amgylcheddwr siartredig. Mae hi’n rheoli ymgynghoriaeth sy’n arbenigo mewn adfywio cymunedol cymhleth a phrosiectau datblygu cynaliadwy, yn ogystal â gwaith treftadaeth.
David Anderson OBE
David Anderson OBE yw Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, a chyn-lywydd Cymdeithas yr Amgueddfeydd. Mae wedi cyhoeddi llawer ar amgueddfeydd, polisïau diwylliannol a hawliau diwylliannol, yn ogystal ag adroddiad Llywodraeth y DU ar amgueddfeydd a dysgu.