Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol
Dewch i wybod sut mae ein myfyrwyr yn sgorio eu profiad o astudio gyda ni, yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) diweddaraf.
Yn ôl arolwg 2022, roedd 76% o'n myfyrwyr yn fodlon ar eu profiad cyffredinol yn y Brifysgol.
Beth yw'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol?
Arolwg annibynnol yw'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol sy'n gofyn i fyfyrwyr raddio ansawdd eu profiad mewn Addysg Uwch.
Mae'n cael ei gydnabod yn eang fel mesur allweddol o foddhad myfyrwyr ac yn offeryn defnyddiol i ddarpar fyfyrwyr wrth wneud dewisiadau ynglŷn ag astudio. Mae'r canlyniadau ar gael i'r cyhoedd ar Discover Uni.