Ewch i’r prif gynnwys

Arloesi addysg

Partneriaeth arloesi sy'n dod â myfyrwyr prifysgol i mewn i ystafelloedd dosbarth ysgolion i annog disgyblion i ddysgu iaith dramor fodern.

Mentora Iaith

MFL3

Lansiwyd y Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern yn 2015, ac mae'n cyflwyno mentora wyneb yn wyneb mewn ysgolion uwchradd i gefnogi strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru sy'n ceisio cynyddu'r nifer o bobl ifanc sy'n dewis astudio iaith dramor fodern ar lefel TGAU, Safon Uwch a thu hwnt.

Cafodd ei fabwysiadu'n rhyngwladol a'i addasu yn Lloegr i hyrwyddo buddion dysgu iaith i filoedd o ddisgyblion mewn dau o ranbarthau Lloegr yn 2018-20.

Ymunodd yr Athro Claire Gorrara a chydweithwyr o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd â phedwar consortiwm addysg Cymru, yn cynnwys Consortiwm Canolbarth y De - Cydwasanaeth Addysg i bum awdurdod lleol: Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg - i gyflenwi'r prosiect mentora.

Mae'n gosod israddedigion o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth mewn ysgolion lleol yng Nghymru i fentora disgyblion a'u hannog i ystyried dewis ieithoedd tramor modern ar lefel TGAU.

Mae'r model partneriaeth wedi helpu disgyblion i archwilio'u lle mewn byd sy'n globaleiddio a'u cyflwyno i fuddion proffesiynol a rhyngbersonol dysgu ieithoedd, yn ogystal â dyhead i fynd i brifysgol.

Mae'r Consortiwm yn grymuso ysgolion i wella canlyniadau'r holl ddysgwyr. Mae'r Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern wedi chwarae rhan allweddol yn ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr.Mae'r cynllun mentora wedi amlygu'r sgiliau, cyfleoedd symudedd a manteision llesiant sydd ar gael i'r rheini sydd â sgiliau iaith. Mae'n helpu i godi disgwyliadau, gwella cymhelliant a chreu cysylltiadau cynaliadwy rhwng adrannau ieithoedd modern Addysg Uwch ac ysgolion uwchradd partner.

Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De

Dysgu digidol

Datblygwyd a chyflwynwyd iteriad digidol o'r prosiect yn 2017-18. Defnyddiodd Digi-Languages ryngweithio digidol i greu profiad digidol ac wyneb yn wyneb cyfunol. Sicrhaodd prosiect ieithoedd digidol cymharol gyllid gan yr Adran Addysg a buom yn cydweithio gyda Phrifysgol Sheffield a Phrifysgol Sheffield Hallam yn Ne Swydd Efrog a Phrifysgol Warwick a Phrifysgol Coventry yng Nghanolbarth Lloegr yn 2019-20. Cyflwynwyd y prosiect mewn 40 ysgol. Roedd y prosiect yn Lloegr yn cynnal ethos ac ymagwedd prosiect Cymru.

Dangosodd adborth o beilot Digi-Languages yn 2018 fod 43% o ddisgyblion a fentorwyd wedi dewis astudio iaith fodern i TGAU, yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol o 18% yng Nghymru.

Ysbrydolodd y cynllun brosiect £200k a gyllidwyd gan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) oedd yn cefnogi dewis Ffiseg i Safon Uwch yn 2018-20 a chwaer brosiect yn hyrwyddo dewis Cymraeg ar ôl TGAU.

Ac mae wedi creu diddordeb rhyngwladol. Ffurfiodd yr Ysgol Ieithoedd Modern bartneriaeth gyda Llywodraeth Ranbarthol Castilla y Leon yn Sbaen, a ddatblygwyd gyda dyfarniad gan Ganolfan Cefnogaeth Addysg ac Arloesedd Prifysgol Caerdydd ac oedd yn cynnwys Universidad Valladolid.