Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gwyddom fod rhai myfyrwyr yn dod o gefndiroedd difreintiedig. A ninnau’n sefydliad amrywiol a chefnogol rydyn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i helpu i wneud y farchnad lafur i raddedigion yn deg i bob myfyriwr.

Hyder o ran Gyrfa: chwilio am dalent, amrywiaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol

Nod Hyder o ran Gyrfa yw rhoi chwarae teg i fyfyrwyr sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol ym maes Addysg Uwch.

Gallwch chi elwa o wrando ar safbwyntiau a syniadau newydd drwy gynnig profiad gwaith hyblyg, cyfunol neu rithwir i fyfyrwyr. Mae Hyder o ran Gyrfa yn gweithio gyda chyflogwyr i gefnogi myfyrwyr i ennill profiad gwaith hyblyg wedi'i deilwra, ac sy’n amrywio rhwng 1 a 10 diwrnod o waith di-dâl hyd at leoliad gwaith 30 diwrnod wedi’i dalu (Bydd Hyder o ran Gyrfa yn talu cyflog y myfyriwr).

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â careerconfident@caerdydd.ac.uk.