Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)

Adroddiad ar-lein yw HEAR sy’n darparu cofnod manwl wedi’i ddilysu o gyflawniadau ein myfyriwr.

O gael HEAR, gallwch chi, y cyflogwr, fod yn hyderus bod eich darpar weithiwr yn cyflwyno darlun cynhwysfawr a chwbl gywir o’u cyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd.

Defnyddir HEAR gan nifer cynyddol o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig, oherwydd ei fod mor ddibynadwy a hawdd ei ddefnyddio, ac mae’n rhoi tawelwch meddwl bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd yn gwbl gywir ac wedi'i dilysu gan Brifysgol Caerdydd.

Gall ein graddedigion ganiatáu i ddarpar gyflogwyr gyrchu eu HEAR am gyfnod penodol o amser. Mae hyn yn caniatáu mynediad i gofnod cynhwysfawr, digidol, wedi'i ddilysu o'u cyflawniadau yn y Brifysgol.

Y bwriad yw cefnogi eu tystysgrif gradd, gan ddarparu:

  • cofnod academaidd digidol o'r modiwlau a astudiwyd a'r marciau a gafwyd
  • lle bo hynny'n berthnasol, coladu gwobrau a dyfarniadau gan gynnwys rhai academaidd, Undeb y Myfyrwyr ac allgyrsiol.

Nid yw HEAR yn cymryd lle CV. Serch hynny, fe fydd yn llywio ac yn cefnogi CV.

Cyrchu’r adroddiad

Os yw un o'n myfyrwyr neu gyn-fyfyrwyr yn gwneud cais i weithio i chi, gallant eich galluogi i gyrchu eu HEAR trwy’r porthol ar-lein Verify.

Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i weld y ddogfen.

Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost a byddwch nid yn unig yn gallu gweld dadansoddiad llawn o farciau myfyriwr ar hyd eu cwrs Prifysgol, ond hefyd fanylion wedi’u dilysu ynghylch amrywiaeth o gyflawniadau ychwanegol megis chwaraeon, gwobrau a dyfarniadau a chynrychiolaeth y myfyriwr.

Fel trydydd parti gallwch gofrestru hefyd drwy Verify i gysylltu â graddedigion yn gyflym a gofyn am gael cyrchu’r e-Ddogfennau wedi’u dilysu sydd ganddynt, gan gynnwys fersiynau electronig o’u HEAR a’u tystysgrif gradd.

Sut olwg sydd ar yr adroddiad

Dim ond yn ei ffurf ddigidol (ar-lein) y mae'r adroddiad yn ddilys, ac nid wedi'i argraffu.

Mae fformat safonol i HEAR ar y sgrîn. Nid yw'n fwy na chwe thudalen o hyd a gellir ei weld neu ei lawrlwytho ar ffurf PDF.

Gweld enghraifft o adroddiad wedi'i gwblhau:

Example of completed report (Welsh)

Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch wedi'i gwblhau.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ar bob cyfrif:

Y Gofrestrfa, Prifysgol Caerdydd