Ewch i’r prif gynnwys

Hysbysebu eich swyddi gwag gyda ni

Gallwch hysbysebu eich swyddi i dros 34,000 o fyfyrwyr gweithredol, uchelgeisiol a graddedigion diweddar Prifysgol Caerdydd drwy ein hysbysfwrdd swyddi ar-lein.

Bwrdd swyddi gwag

Gyda thros 2000 o gliciau ar y botwm cyflwyno bob mis, gallai hi ddim bod yn haws hyrwyddo eich cyfle, ac mae am ddim. Gallwch hysbysebu ar gyfer:

  • swyddi parhaol i raddedigion
  • contractau tymor byr
  • lleoliadau gwaith ac interniaethau
  • gwaith prosiect pwrpasol
  • pob un o'r uchod yn y DU a thramor.

Gallwn ni helpu i recriwtio hefyd. Rydym yn cynnig:

  • platfformau cyfweld digidol
  • ystafelloedd grŵp bach ar gyfer sgyrsiau anffurfiol
  • gweithgareddau canolfan asesu.

Mae pob swydd wag yn amodol ar gymeradwyaeth y gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer cyflogwyr ar hysbysebu swyddi gwag a'n hysbysiad preifatrwydd.

Os ydych chi’n edrych i hysbysebu i fyfyrwyr, mae SiopSwyddi yn wasanaeth cyflogaeth i fyfyrwyr gyda’r nod o ddod o hyd i gyfleoedd gwaith â thâl i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Wedi’i rhedeg a’i chynnal ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd, mae’r SiopSwyddi yn cynnig gwasanaeth asiantaeth staff achlysurol a llwyfan uniongyrchol i gwmnïoedd a hoffai recriwtio myfyrwyr yn uniongyrchol ar gyfer gwaith rhan-amser.

Noddi

O noddi digwyddiadau, cyhoeddiadau, ystafelloedd ac adeiladau neu raglenni digwyddiad fel Gwobr Caerdydd, mae gennym ystod eang o gyfleoedd noddi ar gael i’ch helpu i ehangu ymwybyddiaeth o’ch brand ar y campws ac ar-lein.

Bydd nawdd yn rhoi mynediad arbennig at eich sefydliad at gyfleoedd hysbysebu nad ydynt ar gael i gyflogwyr eraill, a gallwn eich cefnogi mewn uchafu eu potensial.

Noder ein bod yn methu cynnig ebyst wedi’u targedu at fyfyrwyr yn uniongyrchol gan gyflogwyr.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â’r Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i gael mwy o wybodaeth am ein hystod o becynnau noddi.

Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr