Official Launch and Inaugural One-Day Conference
Lansiad Swyddogol a Chynhadledd Undydd Agoriadol
19-20 Hydref 2001
Lansiwyd Canolfan Uwchefrydiau Cymry America yn ffurfiol ar ddydd Gwener, 19 Hydref 2001, gan Y Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Yn dilyn y lansiad swyddogol, traddodwyd Darlith Gyhoeddus gan yr Athro M. Wynn Thomas ar y testun ‘Gwlad o Bosibiliadau: Golwg ar Llên Cymru ac America’. Ar ddydd Sadwrn, 20 Hydref cynhaliwyd Cynhadledd Undydd Agoriadol ar y testun ‘Michael D. Jones, America a Chenedlaetholdeb Cymreig’. Y darlithwyr oedd:
- Dr E. Wyn James: ‘Michael D. Jones a Chymru’
- Dr Richard Wyn Jones a Dr Jerry Hunter: ‘Cincinnati – Crud Cenedlaetholdeb Cymreig Modern?’
- Dr Bill Jones a Dr Glyn Williams: ‘Michael D. Jones, Patagonia a’r Byd’
- Bydd papurau'r gynhadledd yn cael eu cyhoeddi mewn cyfrol ar Michael D. Jones, sydd yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd.




