Ewch i’r prif gynnwys

Polisi ad-dalu blaendal ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir

Daw ein polisi ad–dalu blaendaliadau i rym 14 diwrnod ar ôl talu blaendal ar gyfer rhaglen ôl–raddedig a addysgir.

Cyfnod pwyllo

Os bydd amgylchiadau'r ymgeisydd yn newid yn ystod y 14 diwrnod hyn, gall ofyn am ad-daliad o'r blaendal. Ar ôl y cyfnod pwyllo o 14 diwrnod, caiff polisi Ad-dalu Blaendal y Brifysgol ei roi ar waith.

Yn ystod y cyfnod pwyllo o 14 diwrnod, gallwch wneud cais am ad–dalu blaendal drwy ebostio admissions-advice@caerdydd.ac.uk. Ar ôl i'r cais ddod i law, ad–delir eich blaendal o fewn 30 diwrnod gwaith, yn llai unrhyw gostau bancio neu drosglwyddo a godwyd gan y gwasanaeth talu a ddefnyddiwyd gennych.

Os ydych yn ymrestru o fewn y cyfnod pwyllo o 14 diwrnod, daw'r cyfnod pwyllo i ben ar bwynt ymrestru, pan fydd y polisi ar gyfer tynnu'n ôl ar ôl cofrestru yn gymwys. Ni ellir ad-dalu'r blaendal ar ôl cofrestru, ond gallwch ofyn am gael y blaendal i’w symud ymlaen ar y cyfnod derbyn nesaf os bydd cais i Ohirio Astudiaethau'n cael ei gyflwyno a'i gymeradwyo.

Os ydych yn tynnu'n ôl o'r Brifysgol dros bythefnos ar ôl ymrestru, codir, yn unol â Pholisi Ffioedd Dysgu Prifysgol Caerdydd, ffi dysgu pro–rata arnoch ar sail nifer yr wythnosau ers i chi gofrestru, a bydd y blaendal yn cael ei dderbyn fel taliad yn erbyn y swm pro–rata hyn, gan gymryd bod y swm dros yn fwy na’r swm blaendal a dalwyd.

Drwy wneud blaendal, rydych yn cytuno i delerau ac amodau'r Polisi Ad-dalu Blaendal. Nid oes modd trosglwyddo nac ad-dalu’r blaendal ac eithrio dan yr amgylchiadau a amlinellir isod. Rhaid gwneud ceisiadau am ad-daliad yn unol â gweithdrefnau a therfynau amser Ad-dalu Blaendal y Brifysgol. Caiff blaendaliadau eu cadw tan o leiaf ddyddiad cychwyn y cwrs y gwnaed cais amdano, neu’n hirach, yn ôl disgresiwn y Brifysgol.

Cymeradwyir ad–daliadau yn unol â Pholisi Ad–Dalu'r Brifysgol. Os oes gennych ymholiadau ynghylch y blaendal neu'r polisi ad–dalu, cysylltwch â ni yn admissions-advice@caerdydd.ac.uk.

Rhesymau dros gael ad-daliad

Ar ôl i'r cyfnod pwyllo o 14 diwrnod fynd heibio, ni chaiff blaendaliadau eu had–dalu oni bai o dan yr amgylchiadau canlynol:

Mewn amgylchiadau o'r fath rhaid i chi ddarparu copi wedi'i sganio o lythyr gwrthod y Swyddog Clirio Mynediad.

Os canfyddir eich bod wedi darparu dogfennaeth dwyllodrus neu anghywir i gefnogi'ch cais am fisa yn y DU ni fydd gennych hawl i gael ad-daliad.

Os gwrthodwyd mynediad i chi i'r DU ni fydd gennych hawl i gael ad-daliad.

Ni fydd methu trefnu cymryd prawf Saesneg priodol cyn bod eich rhaglen yn dechrau yn cael ei ystyried fel sail ar gyfer ad–daliad. Rhaid i chi roi tystiolaeth eich bod wedi cymryd prawf cydnabyddedig ymhen 12 wythnos cyn dyddiad dechrau eich rhaglen er mwyn cymhwyso, a rhaid rhoi tystiolaeth o hynny.

Pan nad oes goblygiadau fisa neu fewnfudo UKVI, gall y Brifysgol ddewis lleihau’r gofynion o ran sgiliau Saesneg os bydd astudiaeth academaidd flaenorol neu brofiad proffesiynol yn dangos y potensial i lwyddo ar raglen astudio. Os bydd y Brifysgol yn penderfynu lleihau’r gofynion o ran sgiliau Saesneg a'ch bod felly wedi cael eich derbyn ar y rhaglen astudio a gynigir, cedwir eich blaendal os byddwch yn penderfynu peidio cymryd y lle.

Os na fyddwch yn cwrdd â gofynion academaidd eich cynnig rhaid i chi gyflwyno canlyniadau academaidd i'r Brifysgol cyn gynted ag y byddant ar gael a chyn dyddiad cychwyn eich rhaglen er mwyn iddynt gael eu hystyried gan y Tiwtor Derbyn. Os byddwn yn cynnig lle i chi ar yr un rhaglen wedi hynny a'ch bod yn dewis peidio â chymryd y lle, cedwir eich taliad blaendal.

Os cynigir rhaglen arall i chi, naill ai ar sail iaith Saesneg neu academaidd, bydd gennych hawl i gael ad-daliad blaendal cyn pen 14 diwrnod ar ôl i'r cynnig amgen gael ei wneud pe byddech chi'n penderfynu peidio â'i dderbyn. Os derbynnir cynnig arall, mae telerau gwreiddiol y polisi blaendal yn berthnasol ac ni fyddai gennych hawl i gael ad-daliad pe byddech chi'n newid eich meddwl yn ddiweddarach.

Os ydych chi (neu ddibynnydd) yn dioddef afiechyd ac nad yw eich astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn bosibl mwyach, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth amlwg o hyn gan ymarferydd meddygol swyddogol. Mae hyn yn berthnasol i afiechyd ymgeisydd neu ddibynnydd lle mae gan yr ymgeisydd gyfrifoldeb gofalu ac mae'r amgylchiadau wedi newid ers i'r blaendal gael ei wneud.


Pan fydd ymgeisydd (neu ddibynnydd) yn ceisio triniaeth tymor byr (triniaeth sy'n para 12 mis neu lai) a lle mae ymgeisydd yn cwrdd â'r telerau gohirio (lle mae ymgeisydd yn cwrdd â thelerau ei gynnig ac nad yw wedi gohirio mynediad o'r blaen) bydd y blaendal cael ei drosglwyddo i'r flwyddyn academaidd nesaf. Pan na fydd gohirio wedi'i gymeradwyo, bydd y blaendal yn cael ei ad-dalu.

O dan y categori hwn, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o newid mewn amgylchiadau ariannol nad oedd yn hysbys ar yr adeg y talwyd blaendal. Er enghraifft, tystiolaeth bod nawdd wedi'i sicrhau cyn y taliad blaendal ac yna'n cael ei dynnu'n ôl yn ddiweddarach am resymau y tu allan i'ch rheolaeth.

Pe bai'r Brifysgol yn newid rhaglen yn sylweddol ar ôl i chi dderbyn cynnig a thalu'r blaendal, bydd gennych hawl i gael ad-daliad blaendal pan ofynnir amdano cyn pen 14 diwrnod ar ôl cael gwybod am y newid.

Os yw’r Brifysgol yn canslo'r rhaglen rydych wedi derbyn cynnig ar ei chyfer, yna ad-delir yr holl ffioedd a dalwyd.

Fodd bynnag, os cynigir rhaglen arall i chi, bydd gennych hawl i gael ad-daliad blaendal cyn pen 14 diwrnod ar ôl i'r cynnig amgen gael ei wneud pe byddech yn penderfynu peidio â'i dderbyn. Os derbynnir cynnig arall, mae telerau gwreiddiol y polisi blaendal yn berthnasol ac ni fyddai gennych hawl i gael ad-daliad pe byddech chi'n newid eich meddwl yn ddiweddarach.

Amgylchiadau eithriadol

Er gwaethaf rhesymau blaenorol, gellir gwneud ad-daliadau mewn amgylchiadau eithriadol.

Mae hyn yn ymdrin â materion a fyddai'n atal yr ymgeisydd rhag parhau â'i astudiaethau yn y DU - er enghraifft marwolaeth yn y teulu agos, neu dorri contract ar ran y Brifysgol. Rhaid darparu prawf dogfennol o amgylchiadau o'r fath a difrifoldeb yr amgylchiadau y mae'r Brifysgol yn eu hystyried yn briodol.

Bydd y Brifysgol yn gwneud ei phenderfyniad ar ad-dalu'r blaendal lle mae amgylchiadau eithriadol.

Nid yw trosglwyddiad i sefydliad addysgol arall yn y DU ar ôl ymrestru yng Nghaerdydd, fel arfer yn cael ei ystyried yn amgylchiad eithriadol a dim ond lle mae rhesymau academaidd dilys dros drosglwyddiad o'r fath y gellir ei ystyried.

Ni fydd myfyrwyr sy'n dewis peidio ag astudio yng Nghaerdydd cyn cofrestru yn gymwys i gael ad-daliad.

Os na fyddwch yn mynychu dechrau'r rhaglen neu'n tynnu'n ôl ar ôl cofrestru, yna ni wneir ad-daliad. Lle mae CAS wedi'i gyhoeddi, Hysbysir y Swyddfa Gartref (UKVI) nad ydych wedi ymrestru ar y rhaglen ddisgwyliedig. Yn yr achos hwn gallwch ofyn i'r blaendal gael ei rolio ymlaen i'r cymeriant nesaf os gofynnir am ohirio a'i gymeradwyo. Ni ellir ad-dalu blaendaliadau a gyflwynir ymlaen ac eithrio pan fodlonir y meini prawf a restrir uchod.

Gwneud cais am ad-daliad

I wneud cais am ad–daliad y tu allan i'r cyfnod pwyllo o 14 diwrnod, rhaid i ymgeisydd lenwi'r ffurflen gais ar–lein a chyflwyno'r dystiolaeth ddogfennol drwy ebost ymhen 4 wythnos o ddyddiad dechrau'r rhaglen (fel y nodwyd yn y llythyr oedd yn cynnig lle i chi).

Rhaid i chi allu dangos:

  • trawsgrifiad academaidd dyddiedig ar ôl talu'r blaendal i ddangos nad oeddech yn cwrdd ag amodau eich cynnig
  • tystysgrif iaith Saesneg ddilys wedi'i dyddio ar ôl talu'r blaendal ac o fewn 12 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs i ddangos na wnaethoch fodloni amodau eu cynnig
  • hysbysiad gwrthod fisa i ddangos y gwrthodwyd ei fisa
  • tystiolaeth bod cais am gyllid wedi'i wrthod neu fod amgylchiadau ariannol wedi newid ers talu'r blaendal
  • neu ddogfennau swyddogol gwiriadwy i gefnogi ei honiad o salwch neu amgylchiadau eithriadol.

Dylid ebostio'r dystiolaeth i admissions-advice@caerdydd.ac.uk ar ôl i'r ffurflen gais ar–lein gael ei chwblhau a dim hwyrach na 4 wythnos ar ôl dyddiad dechrau'r cwrs (fel y nodwyd yn y llythyr oedd yn cynnig lle i chi).

Os caniateir eich cais am ad-daliad, byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig drwy e-bost. Bydd ad-daliadau'n cael eu prosesu cyn gynted â phosibl ond heb fod yn hwy na 60 diwrnod ar ôl dyddiad cychwyn y cwrs.

Bydd taliad yn cael ei ddychwelyd trwy'r un dull y derbyniwyd taliad. Mae hwn yn ofyniad o dan deddfau gwrth-wyngalchu arian. Ni allwn ad–dalu blaendaliadau i unrhyw gyfrif arall, neu drwy unrhyw ddull talu arall.

Gwybodaeth dwyllodrus

Os canfyddir eich bod wedi rhoi dogfennaeth dwyllodrus neu anghywir i ategu eich cais ar gyfer y Brifysgol, neu'ch cais am Fisa'r DU, neu wrth wneud cais am ad–dalu blaendal, ni fydd y polisi uchod yn gymwys. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd unrhyw gynnig gan y Brifysgol yn annilys a byddwn yn rhoi gwybod i'r awdurdodau priodol yn achos twyll. Mewn achosion o'r fath, cedwir blaendaliadau ac ni fydd hawl i gael ad–daliad. Lle mae'r Brifysgol yn amau ​​twyll ac efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol ar gymhwyster, rhaid i chi ymgysylltu â'r broses gwirio cymhwyster er mwyn cael eich ystyried am ad-daliad.