Skip to content
Skip to navigation menu

Cynrychiolaeth Academaidd y Myfyrwyr

Yng Nghaerdydd, mae llais y myfyrwyr yn hanfodol. Mae gennym Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr fel nad oes rhaid i bob myfyriwr unigol roi adborth i’r Brifysgol – yn lle hynny, gall cynrychiolwyr roi crynodeb o farn eu holl gyfoedion i’w Hysgol, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.

Ar y tudalennau gwe hyn gallwch ddod o hyd i ddogfennau, dolenni defnyddiol, awgrymiadau, neu bwy yw eich cynrychiolydd. Os hoffech gael mynediad at yr adran ar gyfer cynrychiolwyr myfyrwyr neu staff (cydlynwyr) ac nid ydych yn gwybod y cyfrinair, anfonwch e-bost at CynrychiolwyrMyfyrwyr@caerdydd.ac.uk. Nid oes angen cyfrinair arnoch i gael mynediad at yr adran ‘myfyrwyr’. Hefyd mae’r wybodaeth ar gyfer ‘myfyrwyr’ ar gael yn Gymraeg yma. Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i gael mynediad at yr adran rydych ei heisiau, anfonwch e-bost at CynrychiolwyrMyfyrwyr@caerdydd.ac.uk am ragor o wybodaeth a dilynwch ni ar Twitter @CU_StudentVoice am y wybodaeth ddiweddaraf.