Skip to content
Skip to navigation menu

Sut rydw i’n dod yn gynrychiolydd?

Mae cynrychiolwyr yn cael eu hethol ar ddechrau’r tymor cyntaf a byddan nhw’n eich cynrychioli chi dros weddill y flwyddyn. Bydd y Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr (aelod o staff yn eich Ysgol) yn trefnu’r etholiadau a fydd yn digwydd naill ai adeg dosbarthiadau neu’n electronig.

Os hoffech fod yn gynrychiolydd, bydd gofyn i chi ysgrifennu neu siarad ynglŷn â pham rydych eisiau gwirfoddoli ar gyfer y swydd. Mae pobl yn sefyll dros nifer o resymau gwahanol, efallai eich bod chi eisiau newid rhywbeth penodol yn eich Ysgol, eisiau ennill sgiliau trosglwyddadwy neu efallai eich bod chi’n adnabod llawer o bobl a’ch bod chi’n meddwl y byddech yn dda yn y swydd, ond beth bynnag yw’r rheswm, gwnewch yn siwr eich bod chi wedi meddwl am y peth.

Os rydych yn cael eich ethol gan eich cyfoedion i fod yn gynrychiolydd, yna gallwch gael mynediad at ran cynrychiolwyr y wefan hon i gael cymorth gyda’ch rôl. Eich cyfrifoldebau allweddol fydd casglu safbwyntiau’r myfyrwyr ar eich cwrs, eu rhoi i’ch Ysgol adeg Paneli Myfyrwyr-Staff, ac yna rhoi adborth i’r myfyrwyr ynglŷn â pha gamau a gymerwyd o ganlyniad  (mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen Rôl a Chyfrifoldebau). Ystyriwch eich hun fel yr echelbin yn si-so cynrychioli myfyrwyr.

Yn ôl i Myfyrwyr