Skip to content
Skip to navigation menu

Sut mae’r system cynrychiolwyr yn gweithio?

The Cardiff University rep systemMae’r System Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn gweithio fel bod myfyrwyr yn gallu dweud wrth y Brifysgol beth sy’n bwysig iddyn nhw a rhoi adborth ar y profiad maen nhw wedi’i gael.

Er mwyn cynrychioli llais myfyrwyr yn effeithiol, mae lefelau gwahanol o weithgarwch. Mae’r diagram hwn yn dangos sut mae eich llais (wedi’i ddarlunio fel “corff myfyrwyr” ar y gwaelod) y  gweithio’i ffordd o gwmpas y Brifysgol.

Gallwch weld sut mae’r system cynrychiolwyr myfyrwyr yn gweithio o fewn Ysgol, o fewn y Brifysgol ac o fewn Undeb y Myfyrwyr, neu ddod o hyd i fwy i wybodaeth am rôl cynrychiolydd.

Rydych yn ethol cynrychiolydd trwy bleidleisio drosto naill ai yn y dosbarth neu trwy neges e-bost, ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Y myfyriwr hwn wedyn fydd eich cyswllt ar gyfer y flwyddyn gyfan os oes gennych farn neu syniad ynglŷn â’ch cwrs neu eich profiad yn y Brifysgol. Gallwch gysylltu ag ef ar unrhyw adeg, ac os nad ydych yn gwybod pwy yw eich cynrychiolydd, yna gallwch chwilio am eich cynrychiolydd ar y dudalen we hon. Bydd y cynrychiolydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff ar farn myfyrwyr, felly os rydych eisiau i’ch llais gyfrif, gwnewch yn siwr bod eich cynrychiolydd yn ei glywed.

Yn ôl i Myfyrwyr