Skip to content
Skip to navigation menu

 

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml: Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MYA)

Students and MEP Partner Institutions

C1. Beth yw’r Radd, a sut y bydd o fudd i mi?

  • Rhaglen Gradd Meistr sy’n seiliedig ar ymarfer ydyw a ddyluniwyd i wella a chefnogi ymarfer addysgu a datblygiad proffesiynol Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG).  
  • Mae wedi’i seilio ar y profiadau y bydd pob athro yn dod ar eu traws bob dydd, a bydd yn cynorthwyo’r rhai sy’n newydd i’r proffesiwn i ddatblygu a chymhwyso’r meddylfryd addysg cyfredol er mwyn gwella’u hymarfer eu hunain yn yr ystafell ddosbarth a deilliannau’r dysgwyr.
  • Bydd y cyfranogwyr yn derbyn adnoddau o ansawdd uchel, cefnogaeth gan fentoriaid a chyfle i ymgysylltu ag athrawon ANG eraill a gweithwyr proffesiynol arweiniol i rannu arfer da.

C2. Beth yw cynnwys y Radd?

  • Bydd y Radd yn trafod meysydd proffesiynol allweddol a nodir yn flaenoriaethau ar gyfer athrawon ANG: rheoli ymddygiad, anghenion dysgu ychwanegol ac ymarfer myfyriol.
  • Bydd yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau cenedlaethol, sef llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad.
  • Bydd hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygiad a dysgu plant a phobl ifanc, ac ar arwain ac ymholi gweithredol.

C3. Pwy fydd yn gymwys i ddilyn y Radd?

  • Mae pob Athro Newydd Gymhwyso sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n dechrau ei ymsefydlu o fis Medi 2012 yn gymwys ar yr amod bod ganddo radd gyntaf; bod ganddo gontract addysgu 0.4 er mwyn cael digon o amser addysgu i gyflawni’r gofynion asesu; a bod ganddo gontract sy’n para hyd ddiwedd gwanwyn 2013.  
  • Bydd athrawon llanw sy’n dechrau eu hymsefydlu o 1 Medi 2012 hefyd yn gymwys ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl ofynion eraill.  
  • Ceir rhestr lawn o’r meini prawf cymhwysedd ar adran MYA gwefan Prifysgol Caerdydd.

C4. Sut mae ymgeisio am y Radd?

  • Pan fydd ysgolion yn hysbysu CyngACC eich bod yn dechrau eich ymsefydlu, bydd yr hysbysiad hefyd yn cynnwys cadarnhad a ydych am gymryd rhan yn y Radd ai peidio. 
  • Bydd yr holl ysgolion wedi derbyn gwybodaeth am y Radd ar ddechrau tymor yr hydref yn 2012, a bydd gwybodaeth bellach ar gael ar wefan CyngACC, a hefyd ar adran MYA gwefan Prifysgol Caerdydd.
  • Os ydych yn bodloni gofynion y contract addysgu, bydd CyngACC yn anfon eich manylion i Brifysgol Caerdydd, sy’n gyfrifol am gyflenwi’r Radd, ac a fydd yn prosesu eich cofrestriad ar ei chyfer.
  • Ceir manylion pellach am weithdrefnau ymgeisio yma.

C5. Faint o amser y bydd angen i mi ei dreulio ar waith y Radd?

  • Bydd rhan helaeth o’r Radd yn seiliedig ar brofiad yn yr ystafell ddosbarth, ac ar gyfer pob un o fodiwlau’r Radd, bydd angen i’r cyfranogwyr gymhwyso ymchwil ac arfer gorau cyfredol er mwyn sicrhau safonau uwch wrth ddysgu ac addysgu. Bydd cynnwys a gweithgareddau’r Radd felly’n gyson â’r hyn y mae’r athrawon gorau’n ei wneud er mwyn datblygu eu hymarfer yn barhaus.
  • Yn rhan o’u hymrwymiad i’r Radd, gofynnir i’r ysgolion ryddhau cyfranogwyr i fynychu’r elfennau o’r modiwl a gaiff eu haddysgu. Ar eu blwyddyn gyntaf yn addysgu, bydd disgwyl i’r athrawon ddefnyddio peth o’u hamser digyswllt ychwanegol ar gyfer Ymsefydlu i astudio deunyddiau dysgu’r Radd, i weithio gyda’u Mentor allanol ar gymhwyso arfer gorau a chyflawni gofynion asesu’r Radd.
  • Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i’r cyfranogwyr dreulio rhywfaint o’u hamser eu hunain yn dadansoddi’r ymchwil ddiweddaraf ac yn cwblhau gweithgareddau asesu. Bydd gwybodaeth fanylach ar gael ar ddechrau pob modiwl.

C6. Beth fydd y gost?

  • Yn rhan o’i hymrwymiad i’r proffesiwn dysgu, mae Llywodraeth Cymru’n ariannu’r ddarpariaeth ar gyfer y Radd yn llawn, ac eithrio’r amser i ryddhau athrawon. Nid yw’n costio dim i ymarferwyr unigol.

C7. Beth yw’r trefniadau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog?

  • Bydd modd dilyn y Radd yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd hunaniaeth y Radd yn gwbl ddwyieithog.  
  • Bydd holl elfennau’r Radd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys addysgu, mentora, adnoddau dysgu, asesu, adborth a meysydd cefnogi eraill.
  • Gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am eich dewis iaith wrth gofrestru.

C8. A fydd gan y Radd yr un statws â Graddau Meistr addysg eraill?

  • Bydd. Dyluniwyd y Radd mewn ymgynghoriad ag amrywiaeth o arbenigwyr rhyngwladol gan gynnwys yr Athro Alma Harris, Yr Athrofa Addysg, Prifysgol Llundain; Michael Fullen, Athro Emeritws  a Ben Levin, Athro Addysg, Prifysgol Toronto; a’r Athro David Reynolds, Prifysgol Southampton. 
  • Dyfarniad gan Brifysgol Caerdydd ydyw, ac mae’n gweithredu o dan y rheoliadau arferol ar gyfer Rhaglenni Ôl-radd a Addysgir sy’n seiliedig ar Fodiwlau.
  • Mae’r Radd wedi’i hachredu a’i dilysu drwy Brifysgol Caerdydd, a’i datblygu a’i chyflenwi drwy Gynghrair rhwng Prifysgolion Caerdydd, Aberystwyth a Bangor, a’r Athrofa Addysg, Prifysgol Llundain.
  • Mae’r Rhaglen yn defnyddio profiadau ac arbenigedd helaeth y pedwar partner Addysg Uwch er mwyn cyflenwi cyrsiau ôl-radd o ansawdd uchel a gydnabyddir yn fyd-eang.

C9. Beth fydd yn digwydd os bydd angen i mi gael seibiant o astudio ar gyfer y Radd?

  • Bydd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr mewn sefyllfa i gwblhau eu Gradd dros gyfnod o oddeutu tair blynedd, ond efallai y bydd hi’n cymryd cyhyd â phum mlynedd i ambell un wneud hynny.  
  • Ar adegau, efallai y bydd angen i gyfranogwyr gael seibiant o astudio cyn cwblhau’r Rhaglen, er enghraifft os nad oes ganddynt gontract addysgu yn ystod tymor y gwanwyn neu’r haf ym mhob blwyddyn dros gyfnod y Radd, os ydynt ar absenoldeb mamolaeth, neu os byddant yn sâl am gyfnod. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai cyfranogwyr hysbysu eu Mentor Allanol, CyngACC a gwneud cais i Brifysgol Caerdydd am seibiant o astudio. Lle bo’n briodol, gellir gwneud trefniadau i roi cefnogaeth benodol er mwyn galluogi cyfranogwyr i ailymuno â’r Rhaglen, a gall hynny ddigwydd yn nhymor yr hydref a’r gwanwyn ym mhob blwyddyn academaidd.
  • Os na ellir cwblhau’r Radd yn ei chyfanrwydd, er enghraifft os bydd athro’n rhoi’r gorau i weithio yng Nghymru, bydd cyfranogwyr yn derbyn credydau am y modiwlau a gwblhawyd, a bydd modd defnyddio’r credydau wrth astudio cymhwyster ôl-radd arall. Gwneir pob ymdrech hefyd i sicrhau bod unigolion yn gadael y Radd ar adegau lle gellir dyfarnu Tystysgrif Ôl-radd neu Ddiploma Ôl-radd.  

C10.  Beth yw’r ymrwymiad a ddisgwylir gan ANG y tu allan i’r ystafell ddosbarth?

  • Mae’r Radd hon wedi’i seilio ar ymarfer a bydd pob modiwl a addysgir yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad dysgu rhanbarthol. Bydd yn rhaid rhyddhau’r ANG o’r dyletswyddau addysgu yn ei amserlen er mwyn iddo fod yn bresennol. Bydd y gwaith o ddatblygu gweithgareddau asesu a myfyriol yn golygu bod yn rhaid cyfuno amser digyswllt, pan fydd digon o gefnogaeth gan y Mentor Allanol, a hefyd amser yr athro ei hunan. Bydd yr amser y mae disgwyl i’r athro ei hun ei neilltuo yn debyg i’r ymrwymiad y byddai ei angen ar gyfer cwblhau unrhyw raglen Gradd Meistr.

C11.  A fydd y mentoriaid yn ymweld â’r athrawon ANG yn yr ysgol yn ystod y tymor?

  • Byddant, ar ôl dod i gytundeb, gan ddefnyddio amser digyswllt pan fo hynny’n briodol a hefyd byddant yn arsylwi mewn gwersi, fel sy’n ofynnol ar gyfer Cynefino a’r Radd Meistr.

C12.  A fydd yr athrawon ANG sydd wedi dechrau eu blwyddyn Gynefino yn gynharach yn y flwyddyn galendr hon yn gymwys i ymgymryd â’r Radd?

  • Datblygwyd y Radd hon i roi sylw i anghenion hyfforddi a datblygu athrawon ANG. Felly, dim ond y rheini sy’n dechrau ar eu blwyddyn Gynefino ym mis Medi 2012 fydd yn gymwys.

C13. A fydd yn bosibl i ANG sydd â chredydau lefel Meistr o raglenni eraill drosglwyddo’r credydau hynny i’r Radd Meistr hon?

  • Nid yw’r Radd hon yn debyg i raglenni Meistr eraill gan ei bod wedi ei datblygu i fod yn gymhwyster sy’n seiliedig ar ymarfer. Felly ni fydd yn bosibl defnyddio credydau lefel Meistr eraill fel achrediadau ar gyfer y Radd hon.

C14.   A yw’r Radd yn cynnwys ysgrifennu traethawd?

  • Fel modiwl olaf y Radd, gofynnir i’r ANG weithio ar ddarn estynedig o waith sy’n canolbwyntio ar brofiadau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth yn hytrach nag ar ysgrifennu traethawd traddodiadol.

C15.  Pa arian fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i dalu am y cyfnodau pan fydd athrawon yn cael eu rhyddhau o’u dyletswyddau addysgu i wneud y Radd Meistr hon?

  • Bydd yr arian sydd ar gael ar gyfer amser digyswllt statudol yn talu am yr amser pan fydd athrawon yn cael eu rhyddhau yn ystod blwyddyn 1 o’r Radd. Ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniad hyd yn hyn ynghylch gwneud trefniadau i Lywodraeth Cymru ddarparu arian ar gyfer rhyddhau athrawon ym mlwyddyn 2 ac yn y blynyddoedd ar ôl hynny.