Decorative picture
Dyletswydd Ddiamod: Cyfle Cyfartal a Chynulliad Cenedlaethol Cymru – Astudiaeth o Bolisiau Cydraddoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru a’u Gweithredu: Gorffennaf 1999 i Mawrth 2002

Decorative picture

 

English British flag

Datganiad Ardaeledd

Cartref

 

Cyflwyniad i’r prosiect

Partneriaid comisiynu

Grwp llywio’r prosiect

Cyhoeddiadau

 

Cartref Cysylltiadau:

Prosiectau Ymchwil:

Effeithiolrwydd Llywodraeth Gynhwysol

Cyfalaf Cymdeithasol a Chyfranogiad grwpiau Ffiniol mewn Llywodraeth 2001-04

Cau'r Gofod Cyflogau

Cynnwys arall:

Ymchwil yn y dyfodol

Modiwl Gradd Meistr Prifysgol Caerdydd mewn Llywodraeth Gynhwysol

Amdanom ni /Y wefan hon

Newyddion diweddaraf

Gweithgareddau Dosbarthu

Cysylltiadau

 


Cyflwyniad i’r Prosiect

O safbwynt cyfle cyfartal, mae gan Gymru record gwael yn hanesyddol. Meysydd anghydraddoldeb cyfoes yw rhai cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol. Mae merched, pobl anabl, aelodau o gymunedau lleiafrifol ethnig a grwpiau eraill wedi’u tan-gynrychioli a’u neilltuo i’r ffiniau mewn arferion, gweithdrefnau a diwylliant llywodraeth. Felly, er enghraifft, cyn 1997, pedair dynes yn unig oedd wedi’u hethol gan etholaethau Cymru i fod yn aelodau seneddol yn Westminster. Yn y Swyddfa Gymreig, ychydig o’r staff wedi cael unrhyw hyfforddiant nac unrhyw ymwybyddiaeth am gydraddoldeb. Mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio ar geisiadau i ddelio ag anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas yn dilyn mesurau diweddar i foderneiddio llywodraeth. Yn benodol, mae’n ymchwilio i natur ac effaith dull cyfreithiol unigryw; dyletswydd statudol dibaralel Cynulliad Cymru sef ‘gwneud trefniadau priodol i sicrhau bod ei swyddogaethau’n cael eu gweithredu i ystyried yr egwyddor y dylai pawb gael cyfle cyfartal’. Mae’r adroddiad hwn yn delio â’r cyfnod rhwng mis Gorffennaf 1999 a mis Mawrth 2002. Mae tri nod:

Sefydlu a oes agenda gydraddoldeb amlwg wedi ymddangos dros y ddwy flynedd a hanner gyntaf o oes y Cynulliad.

Sefydlu effaith dyletswyddau statudol y Cynulliad o safbwynt cyfle cyfartal.

Dysgu gwersi o weddill y DU, yn benodol am fanteision deddfwriaeth ar ddyletswydd cyhoeddus i hybu cydraddoldeb ar draws y DU.

Methodoleg

Mae’r astudiaeth hon wedi derbyn gwybodaeth o waith ymchwil academaidd cyfoes ac o’r gorffennol. Mae’n cyflwyno dadansoddiad o gyfweliadau rhannol strwythuredig gyda gwleidyddion a swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd ag archwiliad o bolisiau ac arferion Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd cyfweliadau a grwp ffocws gyda rheolwyr Cyrff Cyhoeddus a Noddwyd gan y Cynulliad (ASPBs – y cyn ‘quangos’): y comisiynau cydraddoldeb statudol, Llywodraeth Leol Cymru, GIG Cymru, mudiadau cydraddoldeb a noddir gan y Cynulliad ac aelodau grwpiau sy’n cynrychioli merched, pobl anabl a phobl lleiafrifol ethnig.

i lwytho’r adroddiad 'An Absolute Duty, Equal Opportunities & the National Assembly for Wales' i lawr mewn ffenestr arall, cliciwch yma [.PDF 645k]

Mae’r ffeil ar fformat.PDF ac mae angen Adobe Reader neu feddalwedd cyfatebol i’w darllen. Gallwch lwytho Adobe Reader i lawr am ddim drwy dudalen gartref yr Adobe:

Tudalen Gartref Adobe

 

 

[Cyflwyniad i’r prosiect] [Partneriaid comisiynu]

[Grwp llywio’r prosiect] [Cyhoeddiadau]

[English] British flag [Datganiad Ardaeledd]

[Cartref]

Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd
Neuadd Morgannwg, Rhodfa Brenin Edward VII, CAERDYDD, CF10 3WT, Y Deyrnas Unedig
Ebost: Paul Chaney, Ralph Fevre

Tudalen Gartref Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd

Problem gyda’r safle? e-bostiwch gweinyddwr y safle
Lluniwyd y safle gan Neil Stephens