Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Quality of Research

Ysgol y Gymraeg

Research Assessment Exercise (2008)

Unit of Assessment Staff submitted (FTE) By percentage, research activity in the submission judged to reach quality standard
Celtic Studies (M56) 8.00 4star icon 3star icon 2star icon 1star icon UC
15% 40% 30% 15% 0%

The grading system explained

(Overall quality profile in blocks of 5%)

Read this research profile in English

Research Profile

Celtic Studies
InstitutionResearch Power
University of Cambridge 39.38  
University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies 38.75  
Aberystwyth University 36.96  
University of Ulster 34.72  
University of Edinburgh 30.00  
Cardiff University 20.40  
Bangor University 17.21  
University of Glasgow 15.30  
Swansea University 14.00  
Queen's University Belfast 10.25  

Table continues to n

How this table was compiled

Yn Ysgol y Gymraeg ymgymerir ag ymchwil arloesol sy’n berthnasol yn gymdeithasol, ac y mae gan ei hymchwilwyr rôl allweddol bwysig yn natblygiad y Gymraeg yn yr 21ain Ganrif.

Mae ymchwil yn yr Ysgol yn amrywio o’r canoloesol i’r cyfoes, o farddoniaeth i ryddiaith, o lenyddiaeth plant i astudiaethau merched. Mae’n cynnwys y Gymraeg a’i llenyddiaeth, ac y mae’r Ysgol yn arwain y ffordd mewn meysydd fel agweddau cymdeithasol a rhyngwladol ar gynllunio iaith, theori feirniadol a theori perfformio. 

Enillir cyllid o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Leverhulme, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yr Academi Brydeinig, y Cyngor Prydeinig a’r UE. Mae dwy uned ymchwil yr Ysgol – sef Canolfan Uwchefrydiau Cymry America a’r Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio - yn ysgogi ymchwil rhyngddisgyblaethol ac yn rhyngweithio â phrosiectau arloesol ar draws y Brifysgol, gan gynnwys cydweithio â Sefydliad Ymchwil Caerdydd yn y Dyniaethau.

Wynebddalen Rhyddiaith Gymraeg

Dechreuodd prosiect Rhyddiaith Gymraeg 13501425 yn 2004 ai gwblhau yn 2007. Fei hariannwyd gan yr AHRC.

Mae’r Ysgol yn torri tir newydd yn ei Chanolfan Uwchefrydiau Cymry America o ran astudio hanes ymfudo, iaith a diwylliant poblogaidd ymysg y Cymry a’u disgynyddion yn yr Unol Daleithiau, Canada a Phatagonia. Mae ymchwilwyr wedi meithrin cysylltiadau cryf â Phatagonia yn benodol trwy ddau brosiect ar ieithyddiaeth gymdeithasol y Gymraeg. Yn ogystal ag astudio sefyllfa gyfredol y Gymraeg ym Mhatagonia, maent hefyd yn canolbwyntio ar y prosesau economaidd-gymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol a effeithiodd ar y gymuned Gymraeg yn Ariannin oddi ar i’r ymsefydlwyr cyntaf gyrraedd yno.

Mae Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio yr Ysgol yn gartref i ymchwil wreiddiol ym maes cynllunio ieithyddol sy’n cyfrannu at ddatblygu polisi ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae’r gwaith cyfredol gyda Llywodraethau Iwerddon, Canada a’r Ffindir ynghyd â gwaith ymgynghorol gyda’r  Academi Basgaidd a Lingua Mon (Barcelona) yn bwydo’n uniongyrchol i weithredu polisi ar lefelau cenedlaethol ac Ewropeaidd.

Mae buddsoddi mewn isadeiledd ymchwil wedi arwain at ddatblygu SCOLAR, sef llyfrgell ymchwil sy’n dod â chasgliadau’r Brifysgol o archifau a llyfrau prin ynghyd, ac a ariennir gan y Gronfa Fuddsoddi ar gyfer Ymchwil yn y Gwyddorau.

Mae prosiectau ymchwil yr Ysgol yn cynnwys cyfieithiad Saesneg newydd o’r campwaith canoloesol,  Y Mabinogion, sy’n cael ei ystyried gan lawer fel un o gyfraniadau pwysicaf Cymru at lenyddiaeth Ewrop; astudiaeth o bregethu dramatig yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, ac o waith Comisiynwyr Ieithydddol mewn nifer o wledydd. Mae adnoddau gwerthfawr ar y we, gan gynnwys prosiect a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ‘Rhyddiaith Gymraeg 1350 - 1450’, ynghyd â gwefannau i hyrwyddo astudio baledi Cymraeg a’r emynyddes Ann Griffiths.

Mae Ysgol y Gymraeg ym mhrifddinas Cymru yn un o ysgolion gwreiddiol y Brifysgol ac y mae’n gartref i’r Gadair Gymraeg sefydledig hynaf. Mae’r Ysgol wedi cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru ers dros ganrif, ac wedi bod yn gartref i nifer o ysgolheigion a llenorion amlwg, gan gynnwys W. J. Gruffydd, G. J. Williams, A. O. H. Jarman a Saunders Lewis.

Learn More

Learn about research at the School of Welsh

Visit the School of Welsh website