Skip to main content
Siriol McAvoy

Dr Siriol McAvoy

Tutor in Media, Journalism and Culture

School of Journalism, Media and Culture

Overview

A hithau o Aberystwyth yn wreiddiol, mae Siriol wedi bod yn astudio ac yn gweithio yng Nghaerdydd fel athrawes mewn Addysg Uwch dros yr wyth mlynedd ddiwethaf. Cwblhaodd ei BA mewn Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Nottingham yn 2007, cyn symud i Brifysgol Rhydychen ar gyfer gradd Meistr mewn Llenyddiaeth Ganoloesol.

Fe alwodd ymdeimlad o hiraeth hi yn ôl i Gymru, felly dychwelodd i gyflawni traethawd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, fu’n canolbwyntio ar foderniaeth, rhywedd a barddoniaeth arbrofol Gymreig yn Saesneg. Mae Siriol wedi gweithio mewn nifer o sefydliadau addysgiadol yn y DU a Ffrainc, ac wedi addysgu amrywiaeth eang o bynciau ym Mhrifysgol Caerdydd, lle bu’n Diwtor Ôl-raddedig (2010-16) ac Athro Prifysgol ôl-ddoethurol mewn Llenyddiaeth Saesneg (2017). Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys barddoniaeth yr ugeinfed ganrif, gwaith ysgrifennu menywod, lleoedd a’r amgylchedd, diwygiadau hanesyddol a hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae Siriol wedi cyhoeddi adolygiadau o lyfrau ac ymchwil i’r bardd Archentaidd-Gymreig Lynette Roberts. Yn ddiweddar mae hi wedi golygu llyfr o ysgrifau sy’n ystyried cwestiynau o ffinioldeb ac amgylchedd mewn moderniaeth Gymreig, o’r enw Locating Lynette Roberts: Always Observant and Slightly Obscure. Mae ei phrosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys llyfr am Lynette Roberts, Virginia Woolf a’r gorffennol canoloesol, ac ymchwiliad i sut mae ysgrifenwyr benywaidd modernaidd yn defnyddio synaesthesia fel ffurf o waith cofio.

Research

Siriol McAvoy, gol., Locating Lynette Roberts: ‘Always Observant and Slightly Obscure’ (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2018).

‘“Crusaders uncross limbs by the green light of flares”: Lynette Roberts’s Avant-Garde Medievalism’, yn Locating Lynette Roberts: Always Observant and Slightly Obscure, golygwyd gan Siriol McAvoy (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2018).

‘Adolygiad o Vernon Watkins on Dylan Thomas and Other Poets and Poetry, a olygwyd gan Gwen Watkins a Jeff Towns’, International Journal of Welsh Writing in English, 3 (2015), 153-6.

Teaching

I am currently tutor on the module The Media and Me: Gender, Sexuality, and Identity, as part of the Pathway to Media.