Skip to main content

Funding to study in Welsh

6 December 2016

Coleg Cymraeg student

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig arian i'r rhai hynny sy'n dymuno dilyn cyfran o'u cwrs Prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2017.

Gall unrhyw ddarpar fyfyriwr wneud cais am ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg er mwyn derbyn hwb ariannol sylweddol yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol.

Cynigir hyd at £3,000 i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio o leiaf 66% o’u cwrs trwy’r iaith a hyd at £1,500 i rai sydd eisiau dilyn o leiaf 33% ohono trwy’r Gymraeg.

Yn ychwanegol, mae Ysgoloriaeth William Salesbury o £5,000 ar gael i unigolyn sydd am astudio cwrs a gynigir yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg.

Mae hyd at 500 o gyrsiau ar draws prifysgolion Cymru yn gymwys i dderbyn yr arian a dylid sicrhau bod cwrs yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth cyn ymgeisio. Gellir gwirio p’un a ydy cwrs yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth trwy ddefnyddio’r Chwilotydd Cyrsiau sydd ar wefan y Coleg Cymraeg neu trwy lawrlwytho’r fersiwn Ap.

Un oedd yn falch o glywed bod Newyddiaduraeth yn gymwys i dderbyn arian oedd Elen Davies, sydd bellach yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd:

‘‘Mae’r arian o gymorth i brynu deunyddiau dysgu ac wrth gwrs i fwynhau bywyd cymdeithasol y brifysgol!

Mae'r ffurflen gais yn cymryd ychydig funudau i’w llenwi a’r cyfan sydd angen ei wneud yw dewis astudio rhan o'r cwrs drwy’r Gymraeg.''

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen gais i dderbyn y Brif Ysgoloriaeth yw Ionawr 15, 2017.

Mae rhagor o wybodaeth am fodiwlau Cymraeg Prifysgol Caerdydd ar gael i weld ar dudalen Modiwlau cyfrwng Cymraeg y Gangen.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau israddedig a lawrlwytho ffurflen gais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2016 trwy ymweld â wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.