Skip to content
Skip to navigation menu

Cymraeg

What happened in the 2010 Election? Why?

26 May 2010

(** Please scroll down for Welsh)

These are two questions which will be answered in two Breakfast Seminars held this week - in Cardiff on Wednesday morning 26th May 2010, and in Aberystwyth on Friday morning 28th May 2010.

In these seminars, Professor Richard Wyn Jones of Cardiff University’s Wales Governance Centre (WGC), and Professor Roger Scully from Aberystwyth University’s Institute of Welsh Politics (IWP) will disseminate some of the data collected from the 2010 Welsh Election Survey.

The seminars will be held in Cardiff at the Norwegian Church in Cardiff Bay, and in Aberystwyth at the Welsh Assembly Buildings, Rhodfa Padarn, and are organised by the WGC and the IWP.

The 2010 Welsh Election Survey was conducted by the IWP and WGC with the leading polling company YouGov. A representative sample of the Welsh electorate, comprising 1475 respondents, were surveyed immediately after the UK general election on 6th May. As well as providing valuable insights into the 2010 election, findings from the survey will be used to inform a major study of the 2011 National Assembly election, for which the IWP and WGC have secured substantial funding from the Economic and Social Research Council of the United Kingdom.

The election saw the Labour party remain by far the strongest in Wales, despite a significant decline in its vote. Prof Roger Scully, Director of the Institute of Welsh Politics, commented that "Labour’s performance in Wales in 2010 was both historically bad and yet unexpectedly good. Labour’s share of the vote was its lowest in Wales since 1918, and lower in Wales than in Scotland for the first time ever. The fact that Labour still dominates Wales’ parliamentary representation shows two things. First, the sheer extent of Labour’s historic domination of Welsh politics. And second, the inability of any one of Labour’s opponents to present a sufficiently convincing alternative. In 2010, our survey shows that there was a great deal of goodwill towards the Liberal Democrats in Wales. But most of that goodwill failed, ultimately, to be converted into votes."

As well as discussing the parties’ performance at the election, the seminars will present data showing public perceptions of the performance of the Labour-Plaid coalition in Cardiff Bay. These findings show an interesting disparity in how people in Wales attribute policy outcomes. The majority of those who think that things have improved in areas like health, education and the economy in recent years attribute this success to the Assembly Government; of those who think that things have declined, the majority blame the UK government!

In addition, there is evidence on how people wish Wales to be governed and how they are likely to vote in a referendum on greater powers for the National Assembly. This evidence shows broadly positive attitudes to devolution, and significant support for taking devolution further. The majority of voters think that the Welsh Assembly Government should have most influence over governing Wales in general, and specifically over running the NHS and schools. Half of all respondents also suggest that the Assembly Government, rather than government in Westminster, should shape policy concerning the Police.

On a referendum, 50 percent of voters indicate that they intend to vote ‘Yes’ in a referendum on more powers for the National Assembly; 32 percent state that they intend to vote ‘No’, with the remainder undecided or not intending to vote. Commenting on the research, Prof Richard Wyn Jones, said, "With the holding of a referendum on extending further legislative powers to the National Assembly now a matter of when rather than if, there is no doubt that the coalition government in Wales, and all those who favour more powers, will be buoyed by these findings. This is especially the case as this is the latest in a series of polls that suggest that the ‘Yes’ camp heading for a relatively comfortable margin of victory. While the final result cannot be taken for granted, the momentum is clearly on the side of those who want to see a National Assembly with enhanced powers. Little wonder, perhaps, that First Minister Carwyn Jones is pushing for an Autumn poll."

-Ends-

Notes:

The Institute of Welsh Politics
The Institute of Welsh Politics is an independent and non-partisan research centre within the Department of International Politics at Aberystwyth University. It was established to promote the academic study and analysis of all aspects of Welsh politics. Reflecting its institutional home within the oldest Department of International Relations in the world, the work of the Institute focuses not only on the political process within Wales, but also on Wales' political and political-economic relations within Britain, Europe and the wider world.

The Wales Governance Centre
The Wales Governance Centre is a research centre supported by Cardiff University’s Law School and School of European Studies, and drawing together scholars from across the University. The Centre’s staff undertake innovative research into all aspects of the law and government of Wales, as well the wider UK and European contexts of devolved governance. The Centre also facilitates and encourages informed public debate of key developments in Welsh governance.

Further information:
Gwenan Creunant, Institute of Welsh Politics, Aberystwyth University
Tel: 01970 622336; mobile: 07790 457269; e-mail: gwc@aber.ac.uk

Arthur Dafis, Public Relations Officer, Aberystwyth University,
Tel: 01970 621763; mobile: 07841 979 452; e-mail: aid@aber.ac.uk

Richard Wyn Jones, Wales Governance Centre, Cardiff University
Tel: 02920 875448; mobile: 07734 679421; e-mail: WynJonesR@caerdydd.ac.uk

Christopher Jones, Communications Officer, Cardiff University
Tel: 029 20 874731; e-mail: jonesc83@cardiff.ac.uk

Beth ddigwyddodd yn Etholiad 2010? A pham?

Dyma ddau gwestiwn fydd yn cael eu hateb mewn dau Seminar Brecwast a gynhelir yr wythnos hon - yng Nghaerdydd fore Mercher 26ain o Fai 2010 ac yn Aberystwyth fore Gwener 28ain o Fai 2010. Bydd Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru (CLlC) ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Athro Roger Scully o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru (SGC) Prifysgol Aberystwyth yn rhannu ychydig o’r data a gasglwyd yn Arolwg Etholiad Cymru 2010. Cynhelir y seminarau hyn yn Eglwys Norwyaidd Bae Caerdydd ar y dydd Mercher ac yn Adeiladau’r Llywodraeth yn Aberystwyth ar y dydd Gwener, ac fe’u trefnir gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru.

Cynhaliwyd Arolwg Etholiad Cymru 2010 gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru mewn cydweithrediad gyda’r cwmni pôlio YouGov. Holwyd sampl gynrychioliadol o 1475 o etholwyr Cymru yn union wedi etholiad cyffredinol y DG ar y 6ed o Fai. Yn ogystal â darparu dealltwriaeth werthfawr o etholiad 2010, caiff darganfyddiadau’r arolwg eu defnyddio wrth baratoi astudiaeth flaenllaw o etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011, astudiaeth fydd yn cael ei chynnal gan SGC a ChLlC wedi iddynt sicrhau cyllid sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yr ESRC.

Yn dilyn yr etholiad cyffredinol, pery’r Blaid Lafur y blaid gryfaf o ddigon yng Nghymru, er gwaethaf cwymp arwyddocaol yn ei phleidlais. Dywedodd yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, fod "perfformiad Llafur yng Nghymru yn 2010 yn hanesyddol o wael ac yn annisgwyl o dda'r un pryd. Roedd cyfran Llafur o’r bleidlais gyda’r isaf yng Nghymru ers 1918, ac yn is yng Nghymru nag yn yr Alban am y tro cyntaf erioed. Mae’r ffaith fod y blaid Lafur yn parhau i ddominyddu cynrychiolaeth seneddol Cymru yn dangos dau beth. Yn gyntaf, maint dominyddiaeth hanesyddol Llafur dros wleidyddiaeth Cymru. Ac yn ail, anallu unrhyw un o wrthwynebwyr Llafur i gynnig dewis arall sy’n argyhoeddi. Yn 2010, dengys ein harolwg fod yna lawer iawn o ewyllys da tuag at y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Ond ar y cyfan, methwyd â throi’r ewyllys da hwnnw yn bleidleisiau."

Yn ogystal â thrafod perfformiad y pleidiau yn yr etholiad, bydd y seminarau hefyd yn cyflwyno data yn dangos canfyddiadau cyhoeddus o berfformiad clymblaid Llafur-Plaid ym Mae Caerdydd. Dengys y darganfyddiadau hyn fod yna wahaniaeth diddorol iawn yn y modd y mae pobl yng Nghymru yn priodoli canlyniadau polisi. Mae’r rhan fwyaf o’r rheiny sy’n meddwl fod y sefyllfa wedi gwella mewn meysydd megis iechyd, addysg a’r economi yn y blynyddoedd diweddar yma yn priodoli’r llwyddiant i Lywodraeth y Cynulliad; ond mae mwyafrif y rheiny sy’n credu fod y sefyllfa wedi gwaethygu yn beio hynny ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol!

Yn ogystal, ceir tystiolaeth am y modd y mae pobl yn dymuno gweld Cymru’n cael ei llywodraethu a beth yw’r modd mwyaf tebygol y byddan nhw’n pleidleisio mewn refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Ar y cyfan dengys y dystiolaeth hon agweddau cadarnhaol tuag at ddatganoli a chefnogaeth sylweddol dros fynd â datganoli gam ymhellach. Cred y mwyafrif o bleidleiswyr mai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddylai gael y mwyaf o ddylanwad dros lywodraethu Cymru yn gyffredinol, ac yn benodol dros redeg y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ac ysgolion. Awgrymodd hanner yr ymatebwyr mai Llywodraeth y Cynulliad yn hytrach na llywodraeth San Steffan ddylai lunio polisi ynglŷn â’r heddlu.

Ar bwnc y refferendwm, nododd 50% o’r pleidleiswyr eu bod yn bwriadu pleidleisio ‘Ie’ mewn refferendwm am fwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol, 32% eu bod yn bwriadu pleidleisio ‘Na’, gyda’r gweddill heb benderfynu eto neu ddim yn bwriadu pleidleisio. Wrth wneud sylw ar yr ymchwil, dywedodd Athro Richard Wyn Jones, "Gan fod cynnal refferendwm ynglŷn ag ehangu pwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol bellach yn fater o pryd yn hytrach nag os, nid oes yna unrhyw amheuaeth y bydd llywodraeth glymblaid Cymru a phawb sy’n ffafrio mwy o bwerau yn falch iawn o’r canfyddiadau yma. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o bôliau wrth gwrs i awgrymu fod y garfan ‘Ie’ yn wynebu buddugoliaeth weddol gyfforddus. Er na ellir cymryd y canlyniad yn ganiataol, mae’r momentwm bellach yn amlwg ar ochr y rheiny sydd yn dymuno gweld Cynulliad Cenedlaethol gyda mwy o bwerau. Does ryfedd efallai fod y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gobeithio am bôl yn yr Hydref."

Diwedd

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol wedi’i sefydlu o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, adran sydd yn cael ei chydnabod gyda’r gorau yn ei maes o ran ymchwil a safon ei dysgu. Nod Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yw hybu astudiaeth a thrafodaeth academaidd ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Mae gwaith Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn cwmpasu nid yn unig ddatblygiadau gwleidyddol oddi mewn i Gymru ond hefyd gysylltiadau gwleidyddol Cymru â gweddill Ynysoedd Prydain, Ewrop a'r byd.

Canolfan Llywodraethiant Cymru
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ganolfan ymchwil a gefnogir gan Ysgol y Gyfraith ac Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd, gan dynnu ynghyd ysgolheigion o adrannau ar draws y Brifysgol. Mae staff y Ganolfan yn cwblhau ymchwil blaengar ar bob agwedd o’r gyfraith a llywodraethiant yng Nghymru, yn ogystal â gwaith ymchwil ar lywodraethiant datganoledig yng nghyd-destun y DG ac Ewrop. Mae’r ganolfan hefyd yn hwyluso a hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus ynglyn â datblygiadau allweddol llywodraethiant Cymru.

Gwybodaeth bellach:
Gwenan Creunant, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth
Ffôn: 01970 622336; symudol: 07790 457269; e-bost: gwc@aber.ac.uk
Arthur Dafis, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth,
Ffôn: 01970 621763; symudol: 07841 979 452; e-bost: aid@aber.ac.uk

Richard Wyn Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
Ffôn: 02920 875448; symudol: 07734 679421 e-bost: WynJonesR@caerdydd.ac.uk
Christopher Jones, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Caerdydd
Ffôn: 029 20 874731; e-bost: jonesc83@cardiff.ac.uk