Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Cynorthwyo Hyfforddeion Ymchwil

Mae’r rhaglen hon yn cynnig amryw fathau o gymorth i ymchwilwyr ym meysydd seiciatreg neu niwrowyddorau clinigol a hoffai brofiad o hyfforddiant o dan adain ymchwilwyr o’r radd flaenaf.

Bydd cyfleusterau cyfoes ar gael ichi, gan gynnwys labordy geneteg yn llawn offer a'r technolegau niwroddelweddu diweddaraf.

Pwy sy’n cael ymgeisio?

Rydyn ni’n gwahodd seicolegwyr, niwrowyddonwyr, genetegwyr, mathemategwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol i ymgeisio. Bydd angen tystiolaeth o allu academaidd cryf ynghyd â geirda.

Hoffen ni ddenu pobl arloesol a brwdfrydig, cryf eu cymhelliant, a fydd yn sbarduno syniadau newydd trwy ffyrdd blaengar a chynhwysol. Rydyn ni am benodi pobl amryfal eu cefndir, eu hagweddau, eu hunaniaeth a’u profiadau.

Dyma gyfle i ymchwilwyr fwrw tymor o dan hyfforddiant. Dyw’r rhaglen ddim yn addas i hyfforddeion clinigol a ddylai ymholi yn hytrach am Gynllun y Mentora Academaidd Clinigol.

Ariannu

Mae croeso cynnes i ymgeiswyr sydd wedi ennill nawdd yn barod, er ein bod yn cynnig cymorth ar gyfer treuliau teithio a llety.

Sut i ymgeisio

Os oes diddordeb gyda chi, llenwch yr holiadur i hyfforddeion gwadd a’i gyflwyno ynghyd â CV i: psychmedadminsupport@cardiff.ac.uk.