Ewch i’r prif gynnwys

Ymgysylltu â'r cyhoedd

A child looks through a microscope

Ein nod yw ymgysylltu â'r cyhoedd am effaith ein hymchwil yn y byd go iawn, a chreu cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu dwyffordd.

Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan allweddol o'n gwaith. Er mwyn i'n hymchwil fod yn effeithiol, mae'n hanfodol ei bod yn berthnasol i brofiad ac anghenion pobl go iawn.

Dyma pam ein bod yn anelu at hyrwyddo deialog gyda'r cyhoedd ar eneteg a niwrowyddorau mewn seiciatreg. Rydym yn gweithio i gyfleu pwysigrwydd ymchwil yn y maes hwn, a'i photensial i wneud bywyd yn well i bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Rydym hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r stigma annheg sy'n gysylltiedig ag afiechyd meddwl drwy hyrwyddo negeseuon cadarnhaol a gwella dealltwriaeth o sail wyddonol problemau iechyd meddwl.

Rydym yn ymgysylltu â'r cyhoedd mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Cyfryngau cymdeithasol a phodledu
  • Darlithoedd cyhoeddus
  • Presenoldeb mewn gwyliau a digwyddiadau
  • Cydweithio gydag artistiaid
  • Digwyddiadau a phrosiectau ysgolion.

Cymryd rhan

Rydym yn cynnal digwyddiadau sydd ar agor i'r cyhoedd yn rheolaidd, o ddarlithoedd ffurfiol i ddangos ffilmiau. Rhestrir digwyddiadau sydd ar y gweill ar y wefan hon a chânt eu hyrwyddo trwy ein ffrwd Twitter, @CNGGCardiff

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ein gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gallwn ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan ysgolion a cholegau.

Cyrraedd cynulleidfa ehangach

Rydym yn cydweithio â'n partneriaid yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) a Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) i gyrraedd ystod mor eang â phosibl o gynulleidfaoedd.

Drwy gyfuno ein hymdrechion gallwn gyrraedd grwpiau amrywiol, o blant ysgol a chleifion i weithwyr meddygol proffesiynol a chyd-ymchwilwyr.

Find out more at the NCMH and NMHRI websites.

Tîm cyfathrebu ac ymgysylltu â'r cyhoedd

Catrin Hopkins

Catrin Hopkins

Communications Officer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
hopkinsc7@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8476