Dyddiadur Gwilym

Rydw i wedi cael fy amserlen arholiadau. Mae’r flwyddyn yma wedi hedfan! Mae e wedi bod yn llawer o waith caled, ond yn llawer o hwyl hefyd. Dydw i ddim yn edrych ymlaen at adolygu ac eistedd yr arholiadau ond rydw i’n methu aros am ddawns haf y brifysgol ym Mehefin!
Mae’r tywydd yn dechrau dod yn dwymach, felly rydw i wedi bod yn adolygu yn y parc. Mae’r darlithoedd wedi gorffen am y flwyddyn a diolch byth rydw i wedi gorffen fy’n nhraethodau.
Rydw i hefyd wedi ceisio cael profiad gwaith sy’n talu cyflog mewn swyddfa dros yr haf cyn mynd ar wyliau. Bydd yn wych ar fy CV! Rydw i’n mynd i Sbaen am benwythnos gyda fy ffrindiau o’r brifysgol ac rydw i’n methu aros! Rydw i wedi bod yn dysgu Sbaeneg mewn dosbarth nos felly bydd yn dda i ymarfer.
Mae rhaid i mi basio fy arholiadau yn gyntaf, felly rydw i’n mynd i adolygu!!
Gwilym
