Y Gwyliau

A ydych chi adref heb unrhyw beth i’w wneud dros yr haf? Dyma rai pethau y gallech chi eu gwneud sy’n boblogaidd iawn gyda phobl sy’n byw yn ne Cymru.
Ar ôl i’r arholiadau orffen, byddwch chi’n barod i gael tipyn o sbri ar ôl ichi orffen adolygu.
Felly syniad gwych yw mynd i’ch parc lleol. Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, ewch i Barc Bute. Y parc prydferth hwn yw’r mwyaf boblogaidd yn ystod yr haf i gael picnic ar ddydd heulog.
Neu os ydych chi’n fodlon dysgu rhywbeth newydd, ewch i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan sydd wedi bod yn le ardderchog ar gyfer y teulu i gyd am flynyddoedd.
Neu, os ydych am ddarganfod diwylliant bywiog, ewch i Fae Caerdydd i fwyta mewn café neu i weld y pethau eraill ar gyfer pob oedran. Felly ewch i weld rhai o’r llefydd o’ch amgylch pan fydd y tywydd yn braf!
