Clash of the Titans

Mae ‘Clash of the Titans’ yn ffilm sydd wedi ei ail-wneud yn 2010 ar ôl y ffilm cyntaf yn 1981. Wedi ei chyfarwyddo gan Louis Leterrier, mae’r ffilm wedi ei seilio ar yr hen stori Roegaidd am Perseus. Gyda actorion fel Sam Worthington yn chwarae Perseus, Liam Neeson yn chwarae Zeus, a Ralph Fiennes yn chwarae Hades, mae’n edrych fel y bydd yn antur gyffrous am y Duwiau.
Mae’r ffilm yn cymryd lle mewn dinas yng Ngwlad Groeg o’r enw Argos, lle mae rhyfel ar fin cymryd lle rhwng dyn a duwiau. Ond, mae Perseus, sydd yn hanner duw, ac oedd wedi tyfu lan fel pysgotwr, a’i dad Zeus, yn dial ar Hades ar ôl iddo ladd eu teulu. Mae hi lan i Perseus i achub y ddinas Argos rhag Hades a’i anghenfil Kranken, a felly mae e’n casglu byddin. Ond a fydd Perseus yn gallu atal Hades rhag dymchwel Zeus, a dinistrio’r hil ddynol?
