Christmas TV

Dros y Nadolig, bydd y sianeli i gyd yn cystadlu i’n cael ni i wylio, yn enwedig yr operâu sebon. Dyma ragflas o beth fydd yn digwydd dros y Nadolig;
Yn Coronation Street, nid yw Peter Barlow yn ymdopi’n dda gyda bod yn dad – a fydd sioc Nadoligaidd yn ei ddod at ei goed? Nawr fod Maria’n gwybod fod Tony wedi lladd Liam, be fydd Tony’n ei wneud? Fydd o’n lladd eto? Pwy fydd yn marw? A gaiff Tony ei ddal?
Draw yn Eastenders, mae Janine Butcher yn dod yn ôl, ac am briodi dyn cyfoethog. A fydd Pat yn llwyddo i stopio’r briodas? Mae Sean yn dwyn babi Roxy ac yn crasio i mewn i’r llyn. Beth fydd yn digwydd?
Bydd Fletch yn dychwelyd i Hollyoaks, ond beth mae o’n ei guddio? Mae Tony’n cael ei guro ac yn gorfod mynd i’r ysbyty, ond pwy wnaeth?
Bydd ‘Specials’ gan Gavin and Stacey – sut fydd Nessa a Smithy’n ymdopi gyda’r babi newydd? Yn Doctor Who, mae’r doctor yn mynd yn ôl i 1851, lle mae’r Cybermen wedi dychwelyd – ond mae yna Ddoctor arall. Beth sy’n digwydd? Mae gan Wallace and Gromit ffilm fer newydd o’r enw ‘A Matter of Loaf and Death’.
