Welcome to Languagezone

Haia, ddysgwyr-ieithoedd!
Mae LanguageZone yn adnodd sydd wedi ei gynllunio i’ch cael chi i ddarllen, i ddeall ac i wrando ar yr ieithoedd yr ydych yn eu dysgu yn yr ysgol. Cylchlythur wythnosol yw e, yn sôn am nifer o bynciau y dylech eu cael yn ddiddorol. Beth bynnag yw eich diddordebau – teledu, cerddoriaeth, ffilm, chwaraeon neu hyd yn oed materion cyfoes – mae o i gyd yma yn ein diweddariadau wythnosol.
Rydym hyd yn oed wedi ychwannegu erthygl wythnosol am elfen o fywyd prifysgol fel y medrwch ddarganfod mwy am fywyd prifysgol.
Mae pob erthygl yn fyr ac fe ddylai fod yn ddigon syml i chi ei deall. Os ydych chi’n cael rhai geiriau’n anodd, gallwch ddefnyddio’r bocs geirfa ar dudalen pob erthygl i’ch helpu. Ar ôl darllen yr erthygl, ceisiwch ateb y cwestiynnau darllen a deall i weld os ydych wedi deall yr erthygl. Yn olaf, ail-ddarllenwch yr erthygl tra’n gwrando ar y ffeil MP3 yn cael ei darllen yn uchel gan siaradwyr brodorol. Bydd hyn yn eich helpu i gynefino â’r acen ac ynganiad y geiriau.
Rydym ni’n gobeithio y byddwch yn mwynhau ein erthyglau ac yn eu defnyddio yn y ffyrdd gorau posibl.
Pob hwyl yn dysgu ieithoedd!
Tîm LanguageZone
