Dyddiadur Gwilym

Dydw i ddim yn gallu credu fod y tymor drosodd yn barod! Mae wedi hedfan! Roedden ni wedi cael parti i dathlu, ac roedden ni wedi gwisgo lan. Fe es i fel môr-leidr!
Bydd hi’n neis i weld fy nheulu a fy hen ffrindiau dros y gwyliau. Rydw i’n edrych ymlaen i fwyta wyau Pasg hefyd! Rydw i wedi ceisio cael gwaith dros y Pasg hefyd mewn siop lle roeddwn i’n arfer gweithio, er mwyn cael arian ychwanegol! Ond, mae hefyd gen i draethawd i’w orffen, ac adolygu ar gyfer yr arholiadau. Dydw i ddim yn edrych ymlaen atyn nhw, ond bydd hi’n werth e, oherwydd bydd gen i dri mis bant!
Reit, mae rhaid i fi pacio cyn i fy rhieni ddod i fynd â fi gartref! Hwyl am nawr!
