The Christmas Break

Diar mi! Mae hi bron yn ddiwedd y tymor ac mae tri traethawd gyda fi i orffen cyn i fi fynd adref am y Nadolig...ond mae yna hefyd lot o bartïon Nadolig ac rydw i eisiau mynd i sglefrio iâ yn y farchnad gyda fy ffrindiau hefyd!
Dwi’n caru byw yn y brifysgol gyda fy ffrindiau. Mae rhywbeth yn mynd ymlaen trwy’r amser...ac rydw i’n edrych ymlaen at y cinio Nadolig ein bod ni’n mynd i goginio yn y fflat yr wythnos nesaf. Ond gyda’r holl bethau sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd, gall fod yn anodd i ganolbwyntio ar fy ngwaith!
Mwynheuais fy nharlith ar Hanes Cymru heddiw, a chefais i farc eitha da yn fy arholiad cyfieithu Ffrangeg. Nid ydw i'n edrych ymlaen at fy arholiadau ar ôl y Nadolig, ond bydd yn rhaid i mi feddwl am adolygu cyn bo hir...wel efallai ar ôl yr holl ddathliadau!!
Efallai dylwn i fynd i’r llyfrgell i ddechrau fy nhraethodau!!
Gwilym.
