Gwilym's Diary: Back to Uni

Annwyl Ddyddiadur,
Mae tymor newydd wedi dechrau. Dydw i ddim yn gallu credu pa mor gyflym mae’r flwyddyn yn mynd! Rydw i wedi gorffen fy nhraethodau a fy arholiadau, felly rydw i’n disgwyl fy nghanlyniadau nawr...Argh!
Mae’n dda i fod yn ôl yn fy hen drefn, ac rydw i’n mwynhau fy modiwlau newydd. Rydw i wedi penderfynu cymryd dosbarthiadau nos hefyd er mwyn dysgu iaith newydd- Sbaeneg i ddechreuwyr! Rydw i eisiau teithio i Dde America ar ôl i fi raddio, felly roeddwn i’n credu y bydd Sbaeneg yn eithaf defnyddiol.
Rydw i’n falch bod yr eira wedi toddi-mewn amser ar gyfer dechreuad Pencampwriaeth y Chwe Gwlad! Dydw i ddim yn gallu aros! Rydw i’n mynd i wylio’r gêm gyda fy ffrindiau yn Undeb y Myfyrwyr. Dewch ymlaen Gymru!
Reit! Rydw i’n mynd i gael rhywbeth i fwyta cyn mynd i fy narlith!
