Mae Gwilym yn rhannu ei ddigwyddiadau o’r wythnos gyda ni unwaith eto yn ei ddyddiadur

Rydw i wedi dod yn ôl i’r brifysgol ar ôl holl sbri’r gwyliau Nadolig. Roedd Siôn Corn yn garedig iawn i fi'r flwyddyn hon, ond gwnaeth fy mam-gu siwmper gwlân eithaf ‘diddorol’ i fi!
Mae gen i draethawd i’w wneud erbyn Dydd Llun, ond gorffennais fy arholiadau olaf ar Ddydd Gwener- diolch byth! Dydw i ddim yn siŵr sut aeth e, ond gobeithio fy mod i wedi gwneud yn ddigon da.
Mae tymor y gwanwyn yn dechrau’n fuan a rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau modiwlau newydd a gweld fy ffrindiau unwaith eto ar ôl eu harholiadau wedi gorffen. Rydyn ni’n mynd allan yr wythnos nesaf i gael pryd o fwyd ar gyfer pen-blwydd fy ffrind, rydw i’n wir yn edrych ymlaen ato!
Wedyn, rydyn ni’n mynd i barti yn yr undeb myfyrwyr i weld grŵp pop newydd....rydw i’n ddiolchgar iawn does dim darlithoedd gyda fi’r bore nesaf felly rydw i’n gallu aros yn fy ngwely!
Iawn, mae’n rhaid i fi ddychwelyd fy llyfrau i’r llyfrgell cyn mynd i gael cwpanaid o goffi gyda ffrind o fy nghwrs.
Byddaf yn ysgrifennu atoch unwaith eto yn fuan!
Gwilym
