Zoe Lucker

Yn dilyn marwolaeth Bradley, mae’n hen bryd i Max o Eastenders gael rhywbeth neis yn ei fywyd. Ac edrychwch pwy sydd yma … mae Zoe Lucker yn chwarae’r fenyw fusnes o’r enw Venessa sydd i fod i gyrraedd Sgwâr Albert rywbryd y flwyddyn hon.
Er y bydd gwreichion yn hedfan, dydy e ddim yn bendant y bydd Venessa mewn gwirionedd yr hyn rydyn yn ei glywed amdani. Felly edrychwch mas!
Mae Zoe Lucker fel brenhines drama ar y teledu. Mae hi wedi ymddangos yn Footballers’ Wives a Bad Girls, a hefyd yn ddiweddar roedd hi’n cystadlu ar Strictly Come Dancing. Ond, mae ei sgiliau fel actores yn llawer iawn gwell na’r sgiliau a ddangosodd yn dawnsio.
Mae Zoe wedi ymddangos ar Bad Girls a hyd yn oed ar Coronation Street. Roedd hi ar ‘Who wants to be a Millionaire?’ hyd yn oed! Mae pawb yn ei hedmygu fel actores ac mae llawer o bobl eisiau ei defnyddio.
Cawn ni weld sut y bydd hi’n gweithio mas yn Walford a phopeth sy’n digwydd yn Sgwâr Albert.
