The Public Vs. X-Factor

Cymerodd ‘Rage Against The Machine’ le cyntaf yn y siart Nadolig gan guro enillwr X-factor Joe McElderry gyda’r gân ‘Killing In The Name Of.’
Daeth lwyddiant y gân o ymgyrch ar wefan ‘Facebook’ ac roedd hi’n ymdrech i atal canwr Simon Cowell rhag ennill lle cyntaf yn y siart amser Nadolig unwaith eto.
Felly, beth sy’n digwydd i’r cystadleuwyr X-Factor ar ôl i’r diddordeb a chyffro sy’n amgylchu’r sioe ddiflannu?
Ar ôl cymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae cystadleuwyr blaenorol wedi mwynhau gwahanol lefelau o lwyddiant. Mae Leona Lewis, enillwraig y drydedd gyfres, yn llwyddiannus o hyd yn y siartiau. Mae hi wedi rhyddhau albwm newydd ac mae cynllun gyda hi am daith ryngwladol. Enillodd JLS ddim y sioe, ond maen nhw wedi mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus fel grŵp pop.
Er hynny, mwynhaodd cystadleuwyr eraill lwyddiant ar ôl ymddangosiadau ar y sioe, ond cawson nhw eu gollwng gan eu labeli ar ôl amser. Mae rhai ohonyn nhw yn dal ati yn y byd cerddorol ac o hyd yn creu prosiectau newydd.
Felly, beth fydd yn digwydd i Joe McElderry yn y dyfodol? Dim ond amser gall ddweud!
