Skins

‘Skins’ ydy drama arddegol Brydeinig sy’n sôn am fywyd grŵp o bobl ifanc rhwng 16 oed a 19 oed sy’n byw ym Mryste. Mae’r cynyrchyddion yn honni bod y gyfres yn adlewyrchu bywyd pob dydd pobl yn ei harddegau.
Mae’r grŵp yn cynnwys bachgen poblogaidd, Mwslim, bachgen hoyw, merch ddeallus a breiniol sydd ganddi broblemau teuluol, bachgen sy’n hoff o fynd i bartïon ac yn caru ei athrawes a merch sydd ganddi anhwylder bwyta. Mae pob un cymeriad yn mynd i’r chweched dosbarth yng Ngholeg Roundview ym Mryste. Mae gan bob episod ei thema ei hunan sy’n canolbwyntio ar un cymeriad yn benodol ond mae rhai lliynnau storïol sy’n ymestyn dros episodau gwahanol.
Mae’r rhaglen wedi cael dylanwad diwylliannol mawr ac yn arbennig wrth ddatblygu’r term parti ‘skins’ sy’n cyfeirio at noson o yfed llawer o alcohol a chymryd cyffuriau.
