Glee! Sioe Gerdd newydd, llawn drama a chomedi. Ddim i golli mas arno!

I’r bobl sydd wedi bod yn gwylio’r sioe, fyddech chi’n gwybod y plot yn barod, ond am y bobl sydd heb ei weld, dyma grynodeb!
Mae Glee yn sioe gerdd newydd ar deledu sydd hefyd yn ddrama/comedi. Mae rhai pobl yn dweud fod sioe fel ‘High School Musical’ ar gyfer y teledu. Mae clwb drama yr ysgol o’r enw ‘Glee club’ yn cael i gymryd drosodd gan athro Sbaeneg yr ysgol. Mae’r athro eisiau gwella’r clwb i fod yn digon dda i gystadlu yn y cystadlaethau terfynol. Mae’r rhaglen yn cynnwys llawer o wahanol ganeuon o’r siartiau gan cynnwys, Beyonce, Journey a Queen! Cafodd y rhaglen ei chreu gan Ryan Murphy, Brad Fulchuk ac Ian Brennan.
Mae Glee yn sioe gerddorol i bawb!!
