Gavin and Stacey

Daeth cyfres newydd o ‘Gavin a Stacey’ i BBC1 ar Ddydd Iau 26 Tachwedd am 9.00 yp. Ysgrifennwyd gan James Corden a Ruth Jones, mae’r gyfres wedi ennill rhes o wobrau. Dywed nifer mai hon - eu trydedd gyfres - yw eu cyfres olaf. Felly peidiwch â cholli allan!
Hanes
Mae Gavin a Stacey wedi symud mewn i dŷ mam Stacey yn y Barri. Mae Gavin wedi dechrau swydd newydd yng Nghaerdydd ac mae Stacey yn hapus iawn i fod yn ôl adref gyda’i theulu. Ond, ydy Gavin yn troi’n anhyderus? A fydd e’n teimlo’n hiraethus?
Yn ôl yn Essex, mae Smithy wedi colli ei ffrind orau, Gavin, tra bod Nessa yn addasu i fywyd yn Sully gyda’i darpar ŵr, Dave ‘COACHES’.
Peidiwch â cholli allan ar y gyfres! Mae llawer i edrych ymlaen ato, yn enwedig dathliad genedigaeth baban Neil.
