Dawnsio ar iâ 2010

Mae’r rhaglen deledu Dawnsio ar iâ yn dilyn pobl enwog a’u partneriaid sy’n ddawnswyr proffesiynol. Maen nhw’n sglefrio o flaen panel o feirniaid enwog. Mae’r rhaglen wedi bod yn boblogaidd iawn, yn enwedig mewn wyth gwlad wahanol- yn cynnwys yr Eidal a Chile.
Aelodau’r panel o feirniaid ydy Karen Barber, Jason Gardiner, Nicky Slater a Robin Cousins. Mae presenoldeb y pumed beirniad yn newid o bryd i’w gilydd; roedd Karen Kresge yn y gyfres gyntaf, Natalia Bestemianova yn yr ail gyfres, Ruthie Henshall yn y drydedd a phedwaredd gyfres ac Emma Bunton yn y pumed.
Hefyd mae’r daith ‘Dawnsio ar Iâ’ yn boblogaidd iawn ac yn dechrau ym mis Ebrill eleni.
Y bobl enwog sydd wedi cymryd rhan yn 2010 ydy Heather Mills, Danniella Westbrook, Bobby Davro, Emily Atack, Kieron Richardson, a Sinitta.
Y person cyntaf i’w gael ei bleidleisio i adael oedd Sinitta, hen gariad Simon Cowell. Pob lwc i’r cystadleuwyr sydd ar ôl.
