Winter Sports 2009

Yn ôl y Gymdeithas Gemau Olympaidd Prydeinig, mae ein sglefrwyr ffigwr yn paratoi ar gyfer Olympaidd y Gaeaf a gynhelir yn Vancouver, Canada yn Chwefror 2010.
Yn flaenorol, mae Prydain wedi llwyddo sawl gwaith yng nghystadleuaethau ffigwr sglefrio; roedd John Curry yn llwyddiannus iawn ym 1976, ennillwyd medal aur gan Jeannette Altwegg ym 1952 a gwobr efydd gan Jane Torvill a Christopher Dean trwy gystadlu fel pâr ym 1994. Edrychwn ymlaen felly at weld sglefrwyr Prydain yn cystadlu eleni.
Bydd Prydain yn cymryd rhan yn y cystadleuaethau parau a sengl merched, a bydd tîm dawnsio ar iâ hefyd yn cystadlu. Nid yw Prydain wedi dychwelyd o’r Gemau Olympaidd gyda gwobr yn y gystadleuaeth hon ers y gemau yn Lillehammer ym 1994.
Aeth 311 o athletwyr i Beijing ym 2008, ond dim ond 50 bydd yn cystadlu yng Ngemau Vancouver. Codir safon y beirniadu eleni felly bydd yn rhaid i athletwyr Prydain weithio’n galed i lwyddo.
