Hanes Comic Relief ym Mhrydain

Yn nwy fil a dau, fe wnaeth Comic Relief a BBC Sports weithio gyda’i gilydd i wneud Sports Relief. Nod yr elusen oedd codi arian i weithio gydag elusennau ym Mhrydain a thramor.
Mae llawer o bobl enwog yn cymryd rhan yn y digwyddiad eu hunain. Roedd y rhaglen gyntaf wedi cael ei chyflwyno gan Gary Linekar ac Ulrike Johnson.
Yn bendant, peth gorau’r rhaglen oedd gêm o dennis gyda Pat Cash a Tony Blair, y cyn Brif Weinidog.
Eleni, bydd Sports Relief yn cael ei ddarlledu o’r 19 i’r 21 o Fawrth. Gyda rhai digwyddiadau eraill, bydd yn cynnal fersiwn arbennig o Strictly come Dancing.
Ond y prif ddigwyddiad fydd y filltir Sport Relief, wedi ei noddi gan Sainsbury’s ac yn agor i bobl o bob oedran.
Mae digwyddiadau eraill i godi arian sydd wedi bod yn llwyddiannus wedi gweld pobl enwog fel David Walliams yn nofio o Sbaen i Foroco yn 2008 neu Eddie Izzard yn rhedeg 43 marathon dros 51 dydd ar gyfer elusen. Beth amdanoch chi? Oes elfen o fywyd chwaraeon ynoch?
