Dde Affrica fel cenedl chwaraeon

Gyda Chwpan Pêl-droed y Byd yn dechrau ar yr 11eg o Fehefin 2010, mae’r trefnwyr wedi cael eu holi dro ar ôl tro os ydy Dde Affrica, gwlad sydd â throseddu uchel, yn gallu cynnal un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd.
Mae pêl-droed yn gêm boblogaidd yn Affrica. Fodd bynnag, mae criced a rygbi’r undeb, hefyd yn boblogaidd ers yr amseroedd trefedigaethol. Enw’r tîm criced cenedlaethol yw’r ‘Proteas’, ac enw’r tîm rygbi cenedlaethol yw’r ‘Springboks’.
Er bod nhw wedi eu hynysu oddi wrth chwaraeon dros gyfnod yr ‘apartheid’, enillodd De Affrica gwpan rygbi’r byd yn y flwyddyn 1995. Gwisgodd Nelson Mandela siwmper y Springbok, er mai dim ond pobl wyn oedd wedi ei gwisgo cyn hynny.
A fydd y tîm cartref yn llwyddiannus yng Nghwpan Pêl-droed y Byd yr haf hwn?
