Mae Cymru’n awyddus i chwarae yn y bencampwriaeth unwaith eto

Bydd Lloegr, Cymru, Yr Eidal, Ffrainc, Yr Alban ac Iwerddon yn chwarae gyda'i gilydd unwaith eto ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Dywedodd Warren Gatland, hyfforddwr y tîm rygbi, bod ganddo lawer o hyder yn y tîm.
Bydd chwaraewyr o bobman yng Nghymru, gyda mwyafrif y chwaraewyr o’r Gleision (13) a’r Gweilch (14) yn cael eu harwain gan gapten y Grand Slam 2008- Ryan Jones, un o chwaraewyr y Gweilch
Mae Cymru’n chwarae Ffrainc a’r Alban yn Stadiwm y Mileniwm, ac mae’r tîm wedi dweud bod ganddyn nhw bob hyder yn y gêmau yng Nghaerdydd oherwydd y gefnogaeth ychwanegol.
Enillodd Iwerddon Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, y Grand Slam, yn 2009. Yn y gêm olaf, collodd Cymru yn erbyn Iwerddon ac eleni maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cynllunio i ymladd yn ôl. Mae tocynnau yn gwerthu’n gyflym iawn, felly peidiwch â cholli mas!
