Mae Portsmouth mewn trafferth

Mae Balram Chainrai, perchennog clwb pêl-droed Portsmouth wedi dweud y bydd y clwb mewn trafferth ariannol ac mae’r clwb wedi mynd i weinyddiaeth. Dyna’r cam olaf i glybiau sydd mewn trafferthion ariannol. Ond hoffai’r clwb gael perchennog newydd. Mae’n rhaid rhyfeddu pam fod hyn wedi digwydd? Mae Portsmouth yn cael llawer o arian o’r cyfryngau fel y teledu, felly pam maen nhw wedi cwympo i mewn i’r fagl hon? Y rheswm yw eu bod nhw’n gwario gormod o’u harian. Nawr, oherwydd eu bod nhw’n gwario’r rhan fwyaf o’u harian ar chwaraewyr drud mae ganddyn nhw ddyled i’w thalu. Mae diwedd y clwb yn bosibilrwydd o hyd. All Portsmouth oroesi? Mae’n dibynnu ar y perchennog newydd.
