F1 Against Racism

Mae pennaethiaid F1 wedi galw ar y timau i gefnogi ymgyrch newydd gwrth-hiliaeth sydd ar fin cael ei lawnsio. Enw’r ymgyrch fydd “Racing against Racism”, ac fydd yn cael ei lawnsio’n swyddogol yn y Grand Prix Sbaeneg yn Barcelona ar Ebrill y 27ain.
Fe ddaeth y cyhoeddiad ynghlyn a’r ymgyrch llai na phythefnos ar ol i gefnogwyr F1 Sbaeneg weiddi pethau hiliol ar Lewis Hamilton, gyrrwr du cyntaf F1. Roedd rhai o’r cefnogwyr wedi peintio’u hwynebau yn ddu ac yn gwisgo wigiau “afro”.
Roedd pennaethiaid F1 wedi eu gwylltio, ac maent wedi rhybuddio’r awdurdodau Sbaeneg y gallai’r Grand Prix Sbaeneg gael ei ganslo petai problemau tebyg yn digwydd eto. Er mwyn gwneud yn siwr y bydd yr ymgyrch yn llwyddo, maent yn bwriadu cymryd cyngor gan grwpiau tebyg sydd yn ymwneud a chwaraeon eraill, er enghraifft pel-droed.
Fe ddywedodd tim Lewis Hamilton, sef McLaren, y byddent yn cefnogi’r ymgyrch mewn unrhyw ffordd sy’n bosib.
