Skip to content
Skip to navigation menu

 

Formula1 - Brawn GP

Image Formula 1 Brawn GP

Mae Ross Brawn yn beiriannydd motorsport ac yn berchen ar dîm Fformiwla 1.  Mae o wedi gweithio mewn nifer o dimau Fformiwla 1 eraill, fel cyfarwyddwr technegol ar gyfer Benetton a Ferrari, timau llwyddiannus iawn.  Yn 2007, fe gymrodd amser i ffwrdd, ond yn 2008 fe ddychwelodd i F1 ar gyfer tymor fel penaeth tîm Honda.  Ef sydd berchen tîm Brawn GP, ar ôl prynu tîm Honda yn gynnar yn 2009.

Mae Brawn yn mwynhau llwyddiant mawr ym myd F1.  Yn ras Awstralia, fe ennillodd dau o yrrwyr Brawn gyntaf ac ail.  Y gyrrwyr oedd Jason Button a Rubens Barrichello.  Lewis Hamilton ddaeth yn drydydd i dîm McLaren.  Y tîm olaf i ennill cyntaf ac ail yn ei debut oedd Mercedes-Benz yn y Grand Prix Ffrangeg yn 1954.  Button oedd ar y blaen drwy gydol y ras.  Cafodd Barichello broblemau gwrth-jibio gyda'i injan i ddechrau, a gwneud llawer o niwed i'w gar drwy'r ras.  Cafodd sypreis o glywed ei bod wedi dod yn ail. 

Nawr, mae Brawn wedi bod yn lwcus eto, a chael Virgin i noddi'r tîm.  Dywedodd Richard Branson "Mae Virgin yn ceisio creu'r brand mwyaf ei barch yn y byd, a bydd ein cysylltiad â thîm da yn helpu hyn".

1) Ar gyfer pa dimau oedd Brawn yn gweithio?

2) Pryd ffurfiodd Brawn GP?

3) Pwy ennillodd gyntaf ag ail yn ras Awstralia?

4) Pa dîm oedd yr olaf i wneud hyn yn ei debut?

5) Pwy sy'n noddi Brawn GP?

  •     Geirfa     

    peiriannydd – engineer

    yn bercher ar – owns

    cyfarwyddwr technegol – technical director

    llwyddiannus – successful

    penaeth – head, principal

    gwrth-jibio – anti-stalling

    niwed – damage

    noddi –sponsor

    mwyaf ei barch – most respected