Trychinebau Naturiol ers y flwyddyn newydd

Ar y 12fed o Ionawr 2010, cafodd rhannau o Haiti eu dinistrio gan ddaeargryn 7.0 ar y mesur Richter. Roedd y llywodraeth yno wedi dweud bod 230,000 pobl wedi marw. Amcangyfrifir bod 300,000 o bobl wedi cael eu hanafu a bod 1,000,000 heb gartref ar hyn o bryd.
Ymatebodd sawl gwlad i’r apêl am gymorth, yn addo timoedd cymorth a chyllid er mwyn helpu’r bobl lleol.
Ar y 27ain o Chwefror, roedd daeargryn o 8.8 ar y mesur Richter wedi bwrw Chile. Teimlwyd y crynfeydd yn ne Periw hyd yn oed. Datganodd llywydd Chile, Michelle Bachelet fod 723 o bobl wedi marw. Mae sawl person arall wedi cael eu datgan fel ‘ar goll’, oherwydd bod y daeargryn yn enfawr, roedd y dydd wedi cael ei fyrhau o 1.26 microeiliad!
