London Marathon - 101 Year-Old Runner!

Buster Martin yw gweithiwr hynaf Prydain ar hyn o bryd – mae’n 101 mlwydd oed ac mae’n gweithio 3 diwrnod yr wythnos mewn cwmni plwmio yn Llundain. Mae e nawr yn gobeithio bod y dyn hynaf erioed i orffen marathon Llundain, ac fe fydd e’n dathlu gyda peint o gwrw!
Mae gan Buster 17 o blant, ac fe ddychwelodd i’r gwaith ar ol dwy flynedd o ymddeoliad. Roedd Buster yn arfer gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd yn y fyddin, ac yn ddiweddar fe orffennodd hanner marathon mewn 5 awr ac 13 munud.
Fe fydd yn codi arian i elusen o’r enw y “Rhys Daniels Trust”, sy’n rhoi llety dros dro i deuluoedd plant sydd yn yr ysbyty. Os y bydd yn llwyddo, fe fydd yn curo’r record presennol wrth 8 mlynedd.
Roedd Buster yn y newyddion y llynedd pan ddechreuodd weithio i’r cylchgrawn FHM fel “agony uncle”, yn ateb cwestiynau dynion a phroblemau. Fe gafodd flas ar enwogrwydd hefyd fel rhan o’r grwp “The Zimmers”, a oedd yn llwyddiannus yn y siartiau gyda’u can “My Generation”.
