Arholiadau

Amser hyn o’r flwyddyn, rydyn ni gyd yn dechrau meddwl am arholiadau, ond sut rydym yn gallu gwneud yn siŵr ein bod yn barod amdanynt? Mae rhai arferion yn eithaf amlwg, er enghraifft, mynd i’r gwely yn gynnar - os nad ydych chi wedi dysgu eich pwnc yn barod, fyddwch chi ddim yn ei ddysgu e dros nos!
Bydd rheoli eich amser yn effeithiol yn helpu hefyd! Cynlluniwch beth rydych chi mynd i’w wneud, a cynhyrchwch amserlen adolygu. Ffeindiwch le i adolygu, a trowch bant eich ffôn symudol - dydych chi ddim eisiau i neb dynnu eich sylw! Meddyliwch am ddefnyddio offer adolygu i’ch helpu i gofio (cardiau/ diagramau), ac edrychwch dros hen bapurau.
Peidiwch â gorwneud pethau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o seibiannau pan yn adolygu. Mae ymarfer corff yn wych am ostwng straen. Cadwch i ffwrdd o’r caffein, oherwydd gall greu pryder. Glynwch at y cyngor yma, a byddwch chi’n cael dim problemau yn pasio eich arholiadau … Pob lwc!
