Brain Training

Mae rhai ysgolion yn yr Alban wedi dechrau defnyddio Dr Kawashima’s Brain Training ar gyfer Nintendo DS mewn gwersi mathemateg. Cynhaliodd Colasarium brosiect i weld sut oedd Brain Training yn effeithio ar eu addysg. Mae’r gêm yn cynnwys gemau llai yn ymwneud â rhifau, darllen, datrys problemau a posau cof.
Gwnaeth Learning Training Scotland brosiect debyg â’r gem Brain Gym, gan ganolbwyntio ar fathemateg. Roedd y plant yn cael prawf mathemateg cyn cymryd rhan yn y brosiect, gan ganolbwyntio ar fathemateg pen. Tri dosbarth blwyddyn chwech ysgol gynradd oedd yn cymryd rhan, ac roeddent yn cael eu trin yn wahanol Roedd Ysgol A yn cael tri Nintendo DS a 30 copi o’r gêm. Roeddwn nhw’n chwarae am 15-20 munud pob bore cyn dechrau eu gwersi arferol ac yna’n gwneud Brain Age Check ar brynhawn dydd Gwener. Roedd Ysgol B wedi defnyddio Brain Gym eisioes. Dywedodd yr athro nad oedd o am ei ddefnyddio ond lle roedd o’n teimlo fod ei angen ac yn gweddu at y gwaith. Ysgol C oedd y grwp rheoli, felly nid oedden nhw’n cael defnyddio’r gêm o gwbwl. Roedd yr arbrawf yn parhau am ddeg wythnos.
Ar ôl yr arbrawf, roedd mathemateg y plant wedi gwella ac roedden nhw’n gorffen y prawf yn gynt y tro hwn. Roedd y gêm wedi bod yn help mawr i’r plant â sgôr isel – aeth un plentyn o 25/100 o 68/100. Y marc lleiaf yn yr ail brawf oedd 65/100. Roedd y plant wedi cynnyddu eu marciau o 10 pwynt, ar gyfartaledd.
Roedd yr athrawon i weld yn hoff o ddefnyddio’r gêm hefyd. Dywedodd un athrawes ei bod hi’n help i dawelu’r plant yn y bore gan ei bod yn rhan o’u routine. Dyweddodd hefyd fod defnyddio’r gêm yn hawdd a bod y plant yn ei hoffi. Dywedodd y gallai unrhyw athro gynnal gwers o’r fath.
Roedd rhai’n ofni y byddai’r plant yn gystadleuol iawn, yn cymharu marciau drwy’r amser, ond roedd y plant yn canolbwyntio ar wella eu sgor eu hunain heb gymharu â’u ffrindiau. Roedd hefyd yn helpu i godi hunan hyder y plant yn eu mathemateg.
