Gwyliau cerddorol yr Haf 2010

Ddim yn gwybod beth i wneud yr haf yma? Heb benderfynu sut i ddathlu diwedd yr arholiadau? Beth am fynd i ŵyl gerddorol?
Bob blwyddyn mae Prydain yn cynnal gwyliau cerddorol gwych. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys:
- Glastonbury ar ddiwedd Mehefin. Glastonbury yw gŵyl fwyaf yr haf, ac yn addo cantorion fel Muse a Jack Johnson.
- Download yw’r ŵyl sydd i’r bobl sy’n caru roc a rôl, gyda grwpiau fel ACDC a Megadeth.
- Gŵyl Leeds gyda perfformwyr o’r siartiau.
- Creamfields, yng Nghaer, sydd yn berffaith i bobl sy’n mwynhau cerddoriaeth dawns o’r clybiau nos.
Mae yna digon o ddewis, felly mwynhewch yr Haf y flwyddyn yma!
