Mae teledu realiti’n helpu ail lansio gyrfaoedd cerddorol

Mae teledu realiti yn dod yn fwy poblogaidd yn y wlad hon. O ‘X Factor’ i ‘Strictly Come Dancing’, mae Prydain yn ddwli ar deledu realiti. Felly dydy hi ddim yn syndod bod dau o’r beirniaid ar y rhaglenni teledu hynny, sef Cheryl Cole ac Alesha Dixon, wedi dod i ail-lansio eu gyrfaoedd cerddorol unwaith eto diolch i’w hymddangosiad ar y rhaglenni hynny.
Ar y diwrnod cyntaf, gwerthodd Cheryl Cole tua 134,000 o gopïau o’i chân newydd ‘Fight for This Love’ - y gân a gafodd ei gwerthu’n gyflymaf yn 2009.
Yn wreiddiol, roedd Cheryl Cole yn aelod o’r grwp Girls Aloud a nawr mae hi’n beirniadu ar X Factor. Dylai ei halbwm weld ateb llwyddiannus unwaith eto.
Yn debyg, ar ôl i Alesha Dixon ennill Strictly Come Dancing yn 2007 ac wedyn dod i feirniadu ar y rhaglen yn 2009, daeth Dixon yn ôl i gerddoriaeth yn llwyddiannus.
Roedd hi’n aelod o’r grŵp merched Mistque, ac roedd ei chân gyntaf o’i hail albwm unawd, The Alesha Show (2008), yn boblogaidd iawn. Roedd hi yn y deg uchaf o ganeuon yn y siartiau Prydeinig ar y pryd. Mae Dixon yn edrych ymlaen at fwy o lwyddiant yn y dyfodol hefyd.
