Mae cân Lady Gaga wedi ennill enwogrwydd ar i-tunes, ond pam?

Mae cân Lady Gaga yn ail ar restr caneuon mwyaf poblogaidd ar i-tunes. Enw’r gân yw ‘Poker-Face’. Ond dydy ei henwogrwydd a’i ffortiwn ddim yn unig oherwydd ei cherddoriaeth ardderchog a’i fideos gwych yn unig ond hefyd oherwydd ei bod hi’n gwisgo dillad gwarthus, mae gyda hi chwaeth ffasiwn diddorol iawn.
Ar ddechrau ei gyrfa, roedd sawl stori rhyfedd amdani hi, ond nawr rydyn ni’n gweld bod ei ffasiwn unigol wedi dod yn boblogaidd iawn yn y byd cerdd. Ond nawr, mae ei chefnogwyr yn aros i weld beth fydd hi’n gwisgo nesaf. Mae hi’n enwog nid dim ond oherwydd ei siorts byr a ffrogiau dychmygol, ond hefyd am y ffordd mae hi’n gwneud ei gwallt, sy’n newid trwy’r amser a’i hetiau od.
Yr unig ffordd i’w disgrifio yw di-ofn ac anturus. Mae ei hyder a’i gallu i lwyddo i ennill enwogrwydd trwy ei dillad a’i cherddoriaeth yn syfrdanol!
